Cerdded neu feicio
Yn Sir y Fflint, rydym yn parhau i gyflwyno llwybrau teithio llesol gan wneud cerdded a beicio yn ddewis amgen haws a mwy diogel.
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel-Integrated-Network-Map-Consultation.aspx
Mae Sustrans yn cynnal ac yn gofalu am y rhwydwaith beicio cenedlaethol sy’n cysylltu cefn gwlad â threfi a dinasoedd ar hyd a lled y DU. Mae mwy o wybodaeth am waith Sustrans ar gael yma: https://www.sustrans.org.uk/about-us/our-work-in-wales/ein-gwaith-yng-nghymru/
Holwch eich cyflogwyr os ydynt yn cynnig cynllun beicio i’r gwaith, byddai’n lleihau eich allyriadau ond hefyd mae’n ffordd wych o gadw’n iach. Mwy o wybodaeth yma: https://www.cycle2work.info/employees
Yn hytrach na phrynu beic newydd sbon, ystyriwch brynu un ail law - mae cynlluniau beiciau ail law ar gael, fydd yn cynyddu eich arbedion carbon drwy gyfrannu at yr economi gylchol.
Cludiant Cyhoeddus
Pan fo’n bosibl, cynlluniwch eich teithiau drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus. I gael mwy o wybodaeth ac i gynllunio eich taith ar fws, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Bus-timetables.aspx
Gan fod gorsafoedd bysiau ym Mwcle, Caergwrle, y Fflint, Penarlâg a Shotton, gallwch integreiddio eich cynlluniau teithio i gyrraedd mannau ar hyd a lled Cymru a’r DU gyfan. I gael amseroedd trên ac i gynllunio eich taith ewch i https://www.nationalrail.co.uk/
Mae ceir trydan/hybrid yn rhedeg un ai ar fatri neu gyfuniad o fatri a phetrol. Ymchwilio i geir trydan yw’r cam cyntaf i geisio lleihau eich allyriadau. “Mae ceir batri yn creu 40% yn llai o CO2 na rhai petrol” - yr AA (https://www.theaa.com/driving-advice/electric-vehicles/electric-hybrid-car-guide)
- Gwiriwch gyda’ch cyflogwr, mae’n bosibl eu bod yn cynnig cynllun aberthu cyflog ar gyfer ceir trydan.
Newid eich patrymau teithio
Gall gadael y gwaith ychydig yn gynt neu hwyrach i osgoi’r amseroedd prysur leihau’r amser y bydd eich injan yn segur: Engine idling - why it's so harmful and what's being done | RAC Drive
Gallwch helpu i sicrhau bod llai o gerbydau ar y ffyrdd drwy gymudo â chydweithiwr a chymryd tro i yrru bob wythnos.