Alert Section

Trosglwyddo Asedau Cymunedol


Mae'r canllaw hwn ar gyfer unigolion neu grwpiau sydd am brydlesu adeiladau neu dir gan y Cyngor Sir er budd y gymuned. Gelwir hyn yn Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) a chaiff ei ddiffinio’n fanylach fel a ganlyn:

 “trosglwyddo prydles ased Cyngor Sir y Fflint i sefydliad sydd â phwrpas cymdeithasol ac sy'n bwriadu defnyddio'r ased er budd y gymuned leol".

Mae'r canllaw yn egluro polisi'r Cyngor ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sut y gall unigolion neu grwpiau sydd â diddordeb wneud cais, sut y caiff ceisiadau eu prosesu a sut y gellir cael cefnogaeth.

Nod llawer o'r canllaw hwn yw annog cymunedau i gyflwyno syniadau ac yna datblygu’r syniadau hyn yn gynlluniau mwy manwl. Noder bod cam cyntaf y broses hon yn ddatganiad syml iawn o ddiddordeb. Bwriad hyn yw annog unrhyw un sydd â syniad da i ddod ymlaen. Yn seiliedig ar y datganiad hwn o ddiddordeb, darperir cefnogaeth a gwybodaeth er mwyn helpu i ddatblygu'r syniad hwn. Heb eich syniadau, mae’n amhosibl i sefydliadau a allai fod mewn sefyllfa i gynnig pecynnau cymorth a darparu'r wybodaeth berthnasol a allai fod o gymorth i dwf a datblygiad pellach eich syniad wneud hynny.

Drwy drosglwyddo perchnogaeth neu stiwardiaeth ased i gymunedau lleol, mae'r Cyngor Sir yn cydnabod y gallant chwarae rôl werthfawr o ran cefnogi a chynnal y cymunedau hynny yn Sir y Fflint. Mae gan y Cyngor adeiladau a thir sy'n cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion cymunedol a chyhoeddus.   Drwy drosglwyddo asedau i reolaeth y gymuned, nod Cyngor Sir y Fflint yw:

  • Cynyddu ystod a nifer o asedau cyhoeddus a reolir gan y gymuned, gan ddarparu sylfaen asedau cynyddol ar gyfer cymunedau lleol i lunio gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion, a
  • Chynhyrchu ffynonellau newydd o incwm i gynnal gwasanaethau cymunedol lleol a chynnal asedau lleol.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol er mwyn sicrhau bod trosglwyddo asedau i gymunedau lleol Sir y Fflint yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Mae manylion pellach ar gael gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC). Gallwch gysylltu ag FLVC drwy ffonio 01352 744000 neu drwy anfon e-bost at info@flvc.org.uk 

Gallwch wneud cais ar-lein yn awr drwy ddefnyddio'r ddolen a ganlyn:  Ffurflen Datganiad O Ddiddoreb

Hysbysiad Preifatrwydd Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol, bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint  at y dibenion canlynol yn unig;

  • Prosesu eich cais ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Cynnal trafodion eiddo perthnasol megis; Prydles / Trwydded / Caffael / Gwaredu / Hawddfraint / Fforddfraint

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac o dan Ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (CGLlSFf), a fydd yn cysylltu â chi i helpu gyda llunio achos busnes ar gyfer cefnogi eich cais.  Mae CGLlSFf yn gwneud y gwaith hwn ar ran Cyngor Sir y Fflint ond Cyngor Sir y Fflint yw’r rheolydd data o hyd.

Bydd eich data hefyd yn cael ei rannu ag asiantaethau perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cael y cyllid perthnasol, ac asesu a chwblhau’r broses o drosglwyddo tir neu eiddo. Gallai’r asiantaethau hyn gynnwys;

  • Cynghorau Gwirfoddol y Sir 
  • Cyllidwyr
  • Arferion cyfreithiol ar gyfer cefnogi ar sail pro-bono i arwain ymgeiswyr
  • Comisiwn Elusennau
  • Cwmpas
  • Syrfewyr ynni

Caiff eich data hefyd ei rannu â Chynghorwyr enwebedig a/neu banelwyr cymunedol sy'n asesu addasrwydd y ceisiadau ar y cyd.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’ch gwybodaeth am 15 mlynedd o’r dyddiad cwblhau os bydd eich cais yn llwyddiannus ac am 5 mlynedd os na fydd eich cais yn llwyddiannus.

Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol chi ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol, a’ch hawliau, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx.

Gall Cyngor Sir y Fflint geisio gwirio unrhyw wybodaeth a ddarperir.   Os canfyddir bod unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn ffug, yn gamarweiniol neu ar goll, gall hyn arwain at yr Awdurdod yn penderfynu peidio â symud ymlaen ymhellach.