Ffliw Adar
Atgoffir perchnogion dofednod yn Sir y Fflint i sicrhau eu bod yn dilyn mesurau bioddiogelwch uwch, er mwyn lleihau lledaeniad y Ffliw Adar.
Am mis Hydref 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan, er mwyn diogelu dofednod ac adar caeth rhag straen Hynod Pathogenig o Ffliw Adar (HPAI). Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), er mwyn ymateb i’r heriau yn sgil y Ffliw Adar.
Golyga hyn ei fod yn ofyniad cyfreithiol nawr i holl geidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn diogelu eu heidiau.
Mae’n rhaid i holl geidwaid dofednod ac adar caeth eraill, waeth sut y cedwir yr adar hynny, gymryd camau addas ac ymarferol, gan gynnwys:
- Lleihau mynediad dofednod ac adar caeth eraill i’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ac sydd wedi’u halogi gan adar dŵr gwyllt;
- Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft drwy osod rhwydi dros byllau, a chael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt;
- Bwydo a rhoi dŵr i adar mewn mannau caeedig a sicrhau nad oes modd i’w bwyd, eu dŵr na’u gwely gael eu halogi gan y firws, yn enwedig trwy faw adar, ac y cânt eu storio mewn lle nad oes modd i adar gwyllt gael gafael arnynt;
- Lleihau symudiad pobl i mewn ac allan o fannau caeedig sy'n cynnwys adar;
- Glanhau a diheintio esgidiau â dip traed, a sicrhau bod rhagofalon yn cael eu cymryd er mwyn osgoi trosglwyddiad uniongyrchol neu anuniongyrchol y firws i eiddo neu rhyngddynt, o ran unrhyw beth a allai ledaenu haint, megis dillad;
- Cadw’r ardaloedd lle mae’r adar yn byw yn lân a thaclus;
- Lleihau unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a rhoi ffens o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.
Sefyllfa Bresennol Sir y Fflint
Ar hyn o bryd does yna ddim cyfyngiadau sydd yn berthnasol i Sir y Fflint yn unig.
I dderbyn y newyddion mwyaf diweddar dros y ffôn, ffacs neu ar e-bost ynglŷn â’r achos hwn neu unrhyw achosion eraill o glefydau anifeiliaid egsotig hysbysadwy, tanysgrifiwch i wasanaeth am ddim APHA i gael Negeseuon i’ch Rhybuddio o Glefydau: https://www.gov.uk/guidance/apha-alert-subscription-service