Adolygiad Agregau Adeiladu
Rhaid cynhyrchu Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh) bob 5 mlynedd ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd a De Cymru. Mae hwn yn un o ofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1 (MTAN 1). Mae’r DTRh yn rhoi argymhellion sy’n arwain lefelau darpariaeth y dyfodol ar gyfer agregau adeiladu sy’n angenrheidiol gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru.
Cyhoeddwyd y Datganiadau gwreiddiol yn 2008, a chawsant eu hadolygu’n gyntaf yn 2014. Mae drafftiau ymgynghori o ddogfennau’r Ail Adolygiad nawr ar gael i’w harchwilio.
Mae Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol i dynnu sylw at ymgynghoriad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS) a'r digwyddiadau a fydd yn digwydd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Mae pob DTRh yn cynnwys y brif ddogfen ynghyd ag Atodiad Rhanbarthol cyfatebol, sy’n cynnwys manylion ychwanegol. Cafodd y rhain eu cynhyrchu, ar ran pob Gweithgor Agregau Rhanbarthol, gan Cuesta Consulting Limited, dan gontract i Lywodraeth Cymru. Serch hynny, bu pob Gweithgor Agregau Rhanbarthol yn ymwneud yn agos â’r gwaith o’u paratoi, drwy ddarparu gwybodaeth dechnegol a’i gwirio’n fanwl, a bellach mae’r dogfennau’n barod ar gyfer craffu’n ehangach.
Gellir lawrlwytho’r drafftiau ymgynghori fel dogfennau PDF yma
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg am wyth wythnos, rhwng 30 Medi a 25 Tachwedd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd dau ddigwyddiad ymgynghori, un ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru ddydd Llun 11 Tachwedd, ac un yng Nghyffordd Llandudno yng Ngogledd Cymru ddydd Gwener 15 Tachwedd. Mae hyd at 40 o leoedd ar gael ym mhob digwyddiad. Mae’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Ond mae dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (dydd Gwener 1 Tachwedd) felly bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae rhagor o fanylion am bob digwyddiad, gan gynnwys manylion ar sut i archebu lle, wedi’u nodi yn y dogfennau PDF Canlynol
Fe’ch anogir yn gryf i gyfrannu at y broses hon, p'un a ydych yn weithredwr mwynau, yn swyddog cynllunio, yn rhanddeiliad fwy cyffredinol, yn Aelod etholedig o Awdurdod Cynllunio Lleol neu’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, p’un a ydych yn llwyddo i ddod i un o’r digwyddiadau ymgynghori neu beidio, gallwch wneud hynny drwy lawrlwytho a llenwi ffurflen yr arolwg yma
Fel yr esboniwyd yn y cyfarwyddiadau ar dudalen 1 o’r ffurflen, gallwch gwblhau’r ffurflen gyfan, neu unrhyw ran ohoni, yn dibynnu ar y meysydd penodol sydd o ddiddordeb neu sy'n peri pryder i chi. Pan fyddwch wedi gorffen, a fyddech cystal â dychwelyd eich ymateb mewn e-bost at yr ymgynghorydd. alan.thompson@cuesta-consulting.com, erbyn 25 Tachwedd 2019 fan hwyraf.