Adolygiad o Farchnad Treffynnon
Canlyniadau ar gael
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
Cyhoeddom ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas ag adleoli Marchnad Treffynnon o’r Stryd Fawr i Erddi’r Tŵr ar ddydd Iau ac agor y ffordd i’r traffig.
Cymerodd fasnachwyr y farchnad, preswylwyr, perchnogion busnes ac ymwelwyr ran yn yr ymgynghoriad gyda 351 o ymatebion.
Ymddangosodd yr ymgynghoriad ar ffonau symudol unigol i’w gwblhau ar-lein. Agorodd yr arolwg ar 20/06/2024 ac fe gaeodd ar 11/07/2024.
Roedd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cadarnhau ein bwriad i adleoli Marchnad Treffynnon o’r Stryd Fawr i Erddi’r Tŵr bob dydd Iau.
- Roedd 74% o blaid agor y Stryd Fawr ar ddydd Iau
- Roedd 81% o blaid symud y farchnad i Erddi’r Tŵr
- Dywedodd 72% y byddent yn ymweld â’r farchnad gyda’r Stryd Fawr ar agor a pharcio ar gael.
Dechreuodd y Gwasanaethau Stryd y broses gyfreithiol i ganiatáu cerbydau i fynd i Erddi’r Tŵr ac i alluogi cerbydau i gael mynediad at y Stryd fawr ar ddyddiau Iau.
Cyflwynwyd hysbysiadau yn y Flintshire Leader ar 26/07/2024 ac ar y safle am gyfnod statudol o 21 diwrnod.
Ar 27/09/2024 cyhoeddwyd Hysbysiad o Wneud yn y Flintshire Leader yn hysbysu preswylwyr Treffynnon y byddai’r farchnad yn symud i Erddi’r Tŵr ar 03/10/2024.