Ymgynghoriad ar y Strategaeth Gyfranogi
Aros canlyniadau
Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Ydych chi’n byw yn un o gartrefi Cyngor Sir y Fflint?
Ydych chi’n denant i’r Cyngor (hefyd yn cael ei alw’n Ddeiliad Contract)?
Os felly, darllenwch ymlaen gan yr hoffem ni glywed gennych chi.
Mae gwrando ar ein cwsmeriaid a rhoi cyfle iddynt gymryd rhan yn elfen hanfodol o wella ein gwasanaethau. Rydym eisiau i chi ddweud wrthym sut hoffech chi gael gwybodaeth a chael eich cynnwys.
Rydym yn datblygu strategaeth gyfranogi ar gyfer Tai fydd yn nodi sut rydym yn bwriadu ymgysylltu a chynnwys tenantiaid y Cyngor a pha gyfleoedd sydd yna i denantiaid gael dweud eu dweud ar yr hyn sydd o bwys iddyn nhw.
Er mwyn datblygu hyn ymhellach rydym yn dymuno derbyn barn gychwynnol tenantiaid am ein nod ac amcanion drafft ynghyd â pha ffyrdd yr hoffent ymgysylltu â ni ac ar pa faterion.
Mae’r Arolwg yn agored i’r sawl sy’n byw mewn tai Cyngor Sir y Fflint. Mae’n arolwg ar-lein drwy wefan Cyngor Sir y Fflint
Byddwn yn defnyddio’r adborth i lywio ein strategaeth a chynllun gweithredu cysylltiol.
Yna byddwn yn adborth i’n tenantiaid drwy amryw o ffyrdd gan gynnwys drwy grwpiau preswylwyr ac yn y pen draw drwy gyhoeddi’r strategaeth gyfranogi.
Ymgynghoriad Strategaeth Cynnwys Cwsmeriaid