Astudiaeth Cwmpasu Dichonoldeb Hen Adeilad Baddonau Bwcle
Aros canlyniadau
Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Nod yr astudiaeth yw deall lefel y diddordeb a’r brwdfrydedd yn yr ardal leol mewn perthynas â dyfodol Hen Adeilad Baddonau Bwcle. Mae dyfodol yr adeilad yn ddibynnol ar bobl leol yn rhoi o’u hamser a’u brwdfrydedd i’w ddatblygu fel prosiect ailwampio. Os oes digon o gefnogaeth leol, gallai Adfywio Cyngor Sir y Fflint, y Cyngor Tref ac Ymddiriedolwyr yr adeilad weithio gyda’r gwirfoddolwyr hyn i ddatblygu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad.
Mae pedair elfen allweddol i’r astudiaeth cwmpasu:
- Cynhyrchu ffilm am hen adeilad Baddonau Bwcle: Ymgysylltu a chyfathrebu gyda phobl leol i helpu i ysgogi eu diddordeb - dangos hanes yr adeilad, ei gyflwr presennol a chyfathrebu’r potensial ar gyfer prosiect yn y dyfodol.
- Arolwg ar-lein: I’w gyflwyno ochr yn ochr â’r ffilm er mwyn casglu barn pobl leol a mesur lefel y diddordeb mewn perthynas â dyfodol yr adeilad.
- Ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol: Cyrraedd gymaint o bobl â phosibl, bydd y ffilm a’r arolwg yn cael eu rhyddhau drwy ymgyrch hysbysebu wedi’i thargedu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb: Casglu barn pobl leol heb fynediad at y cyfryngau cymdeithasol, a thrafod yr astudiaeth ymhellach gyda phartïon â diddordeb.
Ewch i 'Give My View' (dolen allanol)