Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Cei Connah a Yr Wyddgrug


Aros canlyniadau

Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law

Pam mae angen Cynlluniau Creu Lle a pham mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal? Mae Creu Lle yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi ystod o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal a nodir mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau’n rhan o dref/dinas fwy).

Bydd y cynlluniau yn darparu fframwaith i arwain gweithgaredd a datblygu prosiect o fewn y 5 - 10 mlynedd nesaf gan ystod o bobl a sefydliadau er mwyn creu newid cadarnhaol. Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gall awdurdodau lleol a’u partneriaid gyflawni dull mwy cydlynol tuag at gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi, gwella’r ardal i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr ac ystod o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o waith rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd arno yn 2023.

Bydd y gwaith ar ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer cyfran 2, sy’n canolbwyntio ar Gei Connah a Queensferry, yn dechrau ym mis Chwefror 2024, gyda chyfran 3 sy’n cynnwys y Fflint a’r Wyddgrug i ddilyn yn ddiweddarach yn 2024/25. Bydd ymgynghoriad digidol yn cael ei gynnal ar gyfer y trefi sy’n weddill yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2024, ond bydd datblygiad y cynlluniau yn cael eu cwblhau un ar y tro dros yr 18 mis nesaf.

Rhwng 03/24 ac 04/24 gwahoddwyd preswylwyr Cei Connah a’r Wyddgrug i gyfrannu drwy lwyfan ymgysylltu ar-lein (fel yr uchod) a bydd y digwyddiadau hyn nawr yn galluogi’r sawl nad oedd yn fodlon neu’n gallu ymgysylltu’n ddigidol i gael cyfle i gyfarfod wyneb yn wyneb i lenwi’r arolygon a thrafod y cynlluniau.

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer Cei Connah a’r Wyddgrug ar gael yma maes o law.

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 12/09/2024

    Caewyd: 21/09/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923