Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Cei Connah, Yr Fflint, Yr Wyddgrug a Queensferry


Aros canlyniadau

Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law

Pam mae angen Cynlluniau Creu Lle a pham mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal? Mae Creu Lle yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi ystod o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal a nodir mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau’n rhan o dref/dinas fwy).

Bydd y cynlluniau’n darparu fframwaith i amrywiaeth o bobl a sefydliadau allu trefnu gweithgareddau a datblygu’r prosiect ymhellach yn ystod y 5 i 10 mlynedd nesaf er mwyn cyflawni newid cadarnhaol. Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gall awdurdodau lleol a’u partneriaid gyflawni dull mwy cydlynol tuag at gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi, gwella’r ardal i drigolion, busnesau ac ymwelwyr, ac ystod o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o waith rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd arno yn 2023.

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer camau 2 a 3, sy’n canolbwyntio ar Gei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, fis Chwefror 2024; bydd y cynlluniau’n cael eu cwblhau fesul un yn ystod y deunaw mis nesaf.

Rhwng 03/24 a 04/24 gwahoddwyd trigolion Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry i gymryd rhan drwy lwyfan ymgysylltu ar-lein (fel uchod), a nes ymlaen yn 2024 bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal i roi cyfle i’r rheiny heb ymgysylltu ar-lein gwblhau’r arolygon a thrafod y cynlluniau wyneb yn wyneb gyda’n swyddogion.

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry ar gael yma cyn bo hir.

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 13/03/2024

    Caewyd: 01/04/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923