Trwyddedau Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth ar draws Sir y Fflint
Ym mis Medi 2024, bu i Gyngor Sir y Fflint gymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i weithredu cynllun Trwyddedau Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth ar draws Sir y Fflint. Bydd y cynllun/ dynodiad yn cael ei gynnal am o leiaf 5 mlynedd.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd sylwadau gan fudd-ddeiliaid a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynllun, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i denantiaid, landlordiaid, asiantaethau rheoli a gosod tai a phreswylwyr lleol.
Bydd y broses ymgynghori yn para am gyfnod o 10 wythnos, o leiaf. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn drylwyr gan y Gwasanaeth Gwarchod y Gymuned a Busnes. Unwaith y bydd y broses ymgynghori wedi dod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu casglu a’u hystyried a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch gweithredu’r cynllun. Rhennir y canfyddiadau perthnasol.
Llenwch yr holiadur ‘Dweud eich Dweud’ cysylltiedig ar-lein drwy isod:
Holiadur 'Dweud eich Dweud' (dolen allanol)
Gall pobl nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o’r Canolfannau Cysylltu, lle bydd modd cael cefnogaeth. Bydd y Canolfannau Cysylltu ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau canlynol:
- Bwcle: Dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau
- Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon: Dydd Llun i ddydd Gwener
- Yr Wyddgrug: Dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener
Os hoffech chi dderbyn y wybodaeth yn Gymraeg, gofynnwch am gopi gan yr adran. Mae’r wybodaeth hon ar gael hefyd drwy gyfrwng Rwmaneg, Pwyleg a Bwlgareg.