Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig
Yn Sir y Fflint mae chwe ysgol wedi eu categoreiddio fel ysgolion Catholig gwirfoddol a gynorthwyir:
- Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony, Saltney.
- Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David, yr Wyddgrug.
- Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair, y Fflint.
- Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Santes Winefride, Treffynnon.
- Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Hybarch Edward Morgan, Shotton.
- Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn, y Fflint.
Yn dilyn canllawiau rheoleiddio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, mae Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn dymuno ymgynghori â phawb sydd â diddordeb ynghylch cynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.
Cynigir:
- Cau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2026.
- Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint.
- Byddai’r uno’n golygu y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2026 ac ysgol unedig newydd, Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-18, Cyfrwng Saesneg, gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ym Medi 2026, yn gweithredu ar y tri o safleoedd presennol.
- Symud yr ysgol newydd i’r adeiladau newydd o 1 Medi 2029.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 03 Mehefin 2025 ac yn cau am Hanner Nos ar 18 Gorffennaf 2025.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynnig yn y Ddogfen Ymgynghori Statudol sydd yma:
Dweud eich dweud