Alert Section

Arolwyg Boddhad Tenantiaid


Mae Gwasanaethau Tai yn cynnal arolwg cyfrifiad llawn o’n holl denantiaid i ganfod eu barn am yr amrywiaeth o wasanaethau rydym ni’n eu darparu a beth maen nhw’n ei feddwl am y cymdogaethau y maen nhw’n byw ynddynt.

Mae’n rhaid i ni adrodd ar rai o’r prif gasgliadau i Lywodraeth Cymru ac yna maent yn cael eu hadrodd yn gyhoeddus ochr yn ochr â landlordiaid pob Awdurdod Lleol arall a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar draws Cymru.

Mae gwrando ar farn ein tenantiaid yn rhan bwysig o’n gwaith. Oni bai ein bod yn gofyn, sut ydym ni’n gwybod ein bod yn darparu gwasanaethau i’n tenantiaid sydd o safon uchel ac sydd yn bodloni eu hanghenion.

Fe fydd arolwg cyfrifiad llawn yn cael ei gynnal lle bydd pob tenant yn cael dweud ei ddweud. Gallant lenwi ein harolwg cynhwysfawr naill ai ar-lein, drwy’r post neu ar y ffôn.

Fe fydd yr arolwg ar agor tan 24 Ionawr 2025. Yna fe fydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi a bydd adroddiadau llawn ar gael o fis Chwefror 2025.

Fe fyddwn yn defnyddio canlyniadau’r arolwg i wella ein gwasanaethau. Fe fyddwn yn adrodd yn ôl i’n tenantiaid mewn amrywiaeth o ffyrdd pan fyddwn wedi casglu'r canlyniadau llawn

Ewch i arolwg

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 10/11/2024

    Dyddiad cau: 24/01/2024

  • Manylion cyswllt
  • Tai ac Chymunedau

    E-bost: cymrdhan.tai@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923