Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a all fod gennych am ein gwasanaethau. Credwn mewn trin pobl yn deg a gyda pharch, a gwrando ar ein cydwybod a gweithredu gydag unplygrwydd.
Ein nod yw taflu goleuni ar unrhyw faterion y gallech fod yn ansicr yn eu cylch. Os oes modd, byddwn yn union unrhyw gamgymeriadau y gall ein bod wedi’u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo yr ydym wedi methu â’i gyflawni. Os gwnaethom rywbeth o’i le, byddwn yn ymddiheuro, a, lle bo modd, yn ceisio cywiro pethau i chi. Ein nod yw dysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn gan gwynion er mwyn gwella’n gwasanaethau.
Mae’r wybodaeth isod er mwyn helpu i’ch tywys drwy ein proses gwynion.
Datrysiad Anffurfiol
Os oes modd, credwn mai’r peth gorau yw delio â phethau yn syth bin. Os oes gennych bryder, soniwch amdano â’r unigolyn rydych yn delio ag ef. Fe wnân nhw geisio’i ddatrys i chi yn y fan a’r lle.
Datrysiad Ffurfiol
Online Form
Ffurflen Ar-lein
Defnyddio’r ffurflen ar lein gwefan
Email
E-bost
E-bost gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk
Phone
Rhif ffôn
Cysylltu â’r Gwasanaethau Cwsmer ar 01352 703020 os ydych eisiau cwyno dros y ffôn.
Mail
Post
Ysgrifennu atom: Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cwsmer, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. CH7 6NR.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
CAM 1
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut y bwriadwn ddelio gyda hi. Byddwn yn ceisio datrys pryderon cyn gynted ag sy’n bosibl ac rydym yn disgwyl gallu delio â’r mwyafrif helaeth cyn pen 10 diwrnod gwaith.
CAM 2
Os na fyddwn ni’n llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch ofyn i ni ei huwchgyfeirio i Gam 2. Gallwch ofyn i’r unigolyn sydd wedi delio â’ch cwyn neu gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Byddwn yn dweud wrthych chi pwy fydd yn edrych i mewn i’ch pryder neu gŵyn a byddwn yn ceisio ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith.
Ombwdsmon
Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol i bob corff y llywodraeth.
Sylwch: Mae'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch cwynion i’n sylw ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni gywiro pethau.
Beth ydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Mewn adegau o drafferth neu drallod, gall rhai pobl wneud pethau yn groes i’w cymeriad. Efallai bod amgylchiadau annifyr neu boenus wedi bod a arweiniodd at y pryder neu’r cwyn. Nid ydym yn ystyried ymddygiad yn annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn fod gan bawb sy’n cwyno yr hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, rydym yn ystyried fod gan ein staff yr un hawliau hefyd. Rydym yn disgwyl felly i chi fod yn foesgar ac yn gwrtais yn y ffordd yr ydych yn delio â ni. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol neu gamdriniol, galwadau annerbyniol neu swnian afresymol. Mae gennym bolisi ar wahân i reoli sefyllfaoedd lle teimlwn fod gweithredoedd rhywun yn annerbyniol.
Gwneud cwyn
Ar gyfer cwynion sy’n ymwneud ag Ysgolion, Y Gymraeg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chynghorwyr - gweler y canllawiau isod