Alert Section

Rights of Way Privacy Notice


Dangosir map digidol Hawliau Tramwy Cyngor Sir y Fflint ar y wefan hon er gwybodaeth yn unig.  Ni all Cyngor Sir y Fflint dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu anghywirdeb yn y map hwn.  Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled uniongyrchol neu anuniongyrchol, anghyfleustra, niwed (ariannol, cytundebol neu fel arall) nac anaf a achoswyd o ganlyniad i, neu’n honedig o ganlyniad i ddibynnu ar y wybodaeth hon.  Yn ychwanegol, nid yw’r map digidol Hawliau Tramwy yn darparu cyngor nac arweiniad ynghylch diogelwch neu ddiffyg diogelwch yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus a ddangosir.  Dylai defnyddwyr ddilyn yr holl ragofalon rhesymol wrth ddefnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus. 

 
Yr unig fodd o benderfynu ar union lwybr Hawl Tramwy Cyhoeddus yw drwy gyfeirio at y Map Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ac fe’i cedwir a’i cynhelir gan y Cyngor.  Gellir gweld y map hwn drwy gysylltu gyda’r Tîm Hawliau Tramwy ar 01352 704612.