Fy Nghyfrif
Gallwch gysylltu â Chyngor Sir y Fflint yn syth drwy greu Fy Nghyfrif.
Bydd Fy Nghyfrif yn caniatáu i chi gael mynediad i ran o’n gwefan a fydd yn cynnwys gwybodaeth sydd o ddiddordeb personol i chi a bydd modd i chi addasu’r cynnwys i gyd-fynd a’ch dymuniadau a’ch diddordebau unigol chi. Gallwch olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wnaethoch i’r Cyngor ar-lein, cael gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, gweld pwy ydi eich cynghorydd lleol a llawer iawn mwy.
- Mae Fy Nghyfrif ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
- Eich manylion wedi'u cofnodi'n barod, dim angen eu mewnbynnu eto, gan arbed amser i chi
- Ar- lein yw’r ffordd rataf o gael mynediad at ein gwasanaethau
- Eich gwybodaeth yn ddiogel
Creu Fy Nghyfrif
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
Cymorth a Chyngor
Os bydd arnoch angen cymorth i greu neu fynd i Fy Nghyfrif gall y wybodaeth isod fod o help.
I greu Fy Nghyfrif neu fynd i Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu am gymorth
- mae’n rhaid i chi fod â chyfeiriad e-bost dilys
- bydd angen i chi greu cyfrinair diogel
- rhaid i chi gytuno â’n Telerau ac Amodau
Na, does dim rhaid i chi fod yn byw yn Sir y Fflint i greu Fy Nghyfrif.
I fewngofnodi bydd angen i chi fewnbynnu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gywir. Peidiwch â cheisio mewngofnodi gyda chyfrinair na allwch ei gofio gan y bydd gormod o geisiadau anghywir yn cloi eich cyfrif.
Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair cliciwch ar y ddolen ‘'Wedi anghofio eich cyfrinair?’ ar waelod y dudalen mewngofnodi.
Efallai nad oedd y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd yn ddilys. Os ydych wedi cysylltu â ni yn y gorffennol (dros y ffôn, ar e-bost neu ar-lein) ac wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni mae’n bosibl e fod yn ein system yn barod. Cysylltwch â ni am ragor o gymorth.
Pe baech angen unrhyw gymorth gyda Fy Nghyfrif cliciwch ar cysylltu â ni.
Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod ein cofnodion yn gyfredol ac yn gywir a hefyd i’n helpu ni i weld a oes gwasanaethau neu fuddiannau y mae gennych o bosibl hawl iddynt neu a fydd o ddiddordeb i chi. Efallai hefyd y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth er mwyn atal a datgelu twyll a/neu droseddau eraill fel sy’n ofynnol dan y gyfraith. Am ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd.