Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Recordiadau Teams
Cyflwyniad
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu, defnyddio a diogelu data personol o ran recordiadau a wnaed ar Microsoft Teams. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ychwanegol at yr hysbysiad a ddarparwyd i chi naill ai dros e-bost, neu yn y gwahoddiad Microsoft Teams, a fydd yn nodi’r rhesymau’n glir dros recordiad penodol.
Cyngor Sir y Fflint yw’r Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol a gaiff ei gasglu trwy recordiadau Microsoft Teams a bydd yn sicrhau bod y data a roddir i ni yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
I gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau diogelu data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data - SwyddfaDiogeluData@siryfflint.gov.uk.
Pa wybodaeth allwn ni ei chasglu?
Pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn cyfarfod Microsoft Teams sy’n cael ei recordio, mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu’r wybodaeth ganlynol:
- Recordiadau sain a fideo o’r cyfarfod
- Trawsgifiadau o’r cyfarfod
- Negeseuon sgwrsio a ffeiliau a rennir yn ystod y cyfarfod
- Eich enw neu gyfeiriad e-bost fel y cânt eu harddangos.
Sicrhewch eich bod yn ymwybodol y gallai unrhyw beth arall a allai fod yn y cefndir gael ei recordio, felly argymhellir eich bod yn pylu eich cefndir neu’n defnyddio cefndir a ddarperir trwy Microsoft Teams.
Pam fyddwch chi’n recordio’r cyfarfod?
Mae nifer o resymau dros recordio cyfarfodydd, fel at ddibenion hyfforddiant, cymryd cofnodion neu fel tystiolaeth. Dim ond pan fydd gennym sail gyfreithlon dilys a nodwyd y byddwn ni’n recordio cyfarfodydd.
Dylech gyfeirio at yr hysbysiad a anfonwyd yn y gwahoddiad neu dros e-bost, neu siarad yn uniongyrchol â threfnydd y cyfarfod er mwyn adolygu’r rhesymau dros gyfarfod penodol.
Cadw Recordiadau
Byddwn yn cadw’r recordiadau gyhyd ag sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn, neu sy’n ofynnol yn gyfreithlon. Caiff pob recordiad ei gadw am hyd at 60 diwrnod beth bynnag. Fodd bynnag, pan fo gofyniad i gadw recordiad am gyfnod hirach, bydd gwasanaethau yn ymestyn y cyfnod cadw hwn fel y bo’n berthnasol.
Dylech gyfeirio at yr hysbysiad a anfonwyd yn y gwahoddiad neu dros e-bost, neu siarad yn uniongyrchol â threfnydd y cyfarfod er mwyn adolygu’r cyfnod cadw ar gyfer cyfarfod penodol.
Rhoi gwybod am recordio
Os bydd recordiad yn cael ei wneud yn y cyfarfod rydych chi'n ei fynychu, fe'ch hysbysir yn y gwahoddiad, neu dros e-bost, ac ar ddiwrnod recordio'r sesiwn (ar lafar fel rheol) cyn i unrhyw recordiad ddigwydd.
Eich Hawl i Gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch mynychu'r cyfarfod, trafodwch â threfnydd y cyfarfod cyn derbyn y gwahoddiad.
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - Hysbysiad Preifatrwydd
Newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o dro i dro. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu rhoi ar y dudalen hon, gyda’r dyddiad gweithredu.