Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau TGAU 2017
Published: 24/08/2017
Cydnabuwyd gan Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru bod newidiadau o ran
cynnwys, strwythur a methodoleg asesu rhai arholiadau TGAU, gan gynnwys
Saesneg, Cymraeg a Mathemateg, sy’n cael eu hadrodd am y tro cyntaf eleni, wedi
effeithio ar y canlyniadau yn gyffredinol ar draws Gymru yn 2017. Mae’r
newidiadau hyn yn ei gwneud hin anodd cymharur canlyniadau eleni â
chanlyniadau 2016.
Cyfran y graddau A* i C yn 2017 yw 62.8% ar draws Cymru. Yn Sir y Fflint, y
gyfradd a lwyddodd i ennill y graddau uwch (A* - C) yw 63.5% o holl
arholiadau’r haf, gan gynnwys ceisiadau cynnar ac arholiadau drwy’r Bwrdd
Cymreig. Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint
gyda’r Bwrdd Cymreig yn 2017 yn 17%, o’i gymharu â 17.9% ar draws Gymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn longyfarch ein disgyblion sydd wedi
gweithio’n galed iawn i gyflawnir canlyniadau hyn er gwaethaf y newidiadau i’r
arholiadau. Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhieni a’r gofalwyr sydd wedi cefnogi ac
annog eu plant ar aelodau staff sydd wedi gweithion galed iawn i gefnogi eu
disgyblion. Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i
symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith addas. Beth bynnag
yw’r camau nesaf ar eu cyfer, dymunwn bob llwyddiant iddynt.”
Ychwanegodd Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid:
“Mae’r Cyngor yn falch iawn o allu llongyfarch ei fyfyrwyr, athrawon, rhieni a
gofalwyr o fewn Sir y Fflint ar y canlyniadau TGAU a gyflawnwyd eleni ac mae’r
Cyngor yn edrych ymlaen at weld ei bobl ifanc yn symud ymlaen i gam nesaf eu
taith ddysgu, boed hynny’n golygu addysg bellach, prentisiaethau neu’r byd
gwaith.
Yn ystod y cyfnod hwn o newid i strwythur y cwricwlwm ac arholiadau yng
Nghymru, mae swyddogion addysg y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth
â’r Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, GwE, er mwyn gwella
ansawdd addysg ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint a sicrhau bod dysgwyr yn
cyflawni eu potensial.”
DIWEDD