Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
B5101 Ffrith
Published: 04/09/2017
Gweler isod ddiweddariad ynglyn â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y B5101,
Ffrith, ar hyn o bryd yn dilyn ein diweddariad blaenorol ar 7 Awst:
Dechreuodd gwaith i gael gwared â choed ac isdyfiant ddydd Llun 21 Awst. Fe
gymerodd o gwaith fwy o amser na’r disgwyl oherwydd bod cymaint o goed wedi
disgyn ac oherwydd yr amodau gwaith ansicr. Fe gwblhawyd y rhan fwyaf o’r
gwaith clirio ar 31 Awst pan nad oedd ond ychydig o bren ar ôl iw symud or
safle.
Mae disgwyl i waith cloddio i gael gwared â’r deunydd sydd wedi llithro
ddechrau ddydd Mawrth 5 Medi. Rhagwelir y bydd y cymal hwn or gwaith yn cymryd
3 wythnos, ond bydd yn dibynnu ar faint o ddeunydd y mae angen cael gwared ag o
er mwyn sefydlogir llethr unwaith eto.
Pan fydd hynny wedi’i wneud, bydd gwaith i drwsio’r ffordd yn cychwyn, a ddylai
gymryd 2-3 wythnos arall.
Rydym yn diolch i chi eto am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn a gallwch fod
yn sicr ein bod yn gweithio’n galed i ailagor y ffordd yn sydyn ac yn ddiogel.