Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn derbyn y nifer fwyaf o brentisiaid
Published: 15/09/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu 35 o brentisiaid newydd.
Bu’r recriwtiaid newydd yn cwrdd â’r Prif Weithredwr, Colin Everett, yn ystod
diwrnod cynefino yn Academi Dysgu a Datblygur Cyngor yng Ngholeg Cambria,
Llaneurgain.
Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu eu sgiliau
proffesiynol wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd mewn meysydd sy’n cynnwys
busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cefn gwlad, datblygu chwaraeon a llyfrgelloedd.
Mae carfan eleni yn cynnwys prentis a fydd wedi’i leoli yn Theatr Clwyd, gan
adeiladu setiau wrth ddysgu crefftau megis gwaith coed a phlymio.
Fel rheol, mae’r prentisiaid yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill
cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, tra’u bod yn cael profiad gwerthfawr
yn gweithio i’r cyngor ac yn ennill cyflog.
Mae’r adran Dysgu a Datblygu wedi cyflogi graddedig ym maes Rheoli, Diogelu a
Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn gallu parhau â’i chymhwyster Meistr tra’n
gweithio mewn proffesiwn.
Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol,
ac eleni byddant yn cymryd rhan mewn menter llythrennedd digidol newydd, gan
ymweld â sefydliadau yn Sir y Fflint megis cartrefi preswyl i helpu preswylwyr
i ddod yn fwy cyfarwydd â chyfrifiaduron, gliniaduron a ffonau symudol.
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
“Mae hi bob amser yn bleser croesawu ein prentisiaid ac rwy’n dymuno’r gorau i
bob un ohonynt wrth iddynt ddechrau ar eu siwrnai ym myd gwaith. Mae nifer o’n
prentisiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn eu
crefftau a’u proffesiynau dewisol. Mae’r ffaith bod 96% o’r unigolion ar ein
cynllun yn cael gwaith neu lefydd ar gyrsiau addysg uwch ar ddiwedd eu
prentisiaeth yn glod i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.