Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yn dod i Sir y Fflint

Published: 22/09/2022

Bydd Cyngor Sir y Fflint ac Aura yn cynnal arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain fel rhan o ddigwyddiadau cenedlaethol i nodi 80 mlynedd a phennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd. 

Er y bydd y daith yn nodi pawb a fu’n rhan o’r Frwydr, bydd y prif ganolbwynt ar y criw awyr o Gymru a fu’n brwydro, gan adrodd eu straeon a’u harwriaeth wrth gynulleidfa Gymreig fodern.  

Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, yr uwch swyddog RAF yng Nghymru:

“Rwyf wrth fy modd bod Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn dod i Sir y Fflint. 

“Mae’r arddangosfa’n adrodd y stori heb ei hadrodd o safbwynt Cymreig, gan gynnwys gwybodaeth am sut wnaeth gorsafoedd RAF yng Nghymru, ynghyd â chymunedau lleol ar draws Cymru, i gyd gyfrannu at fuddugoliaeth ym 1940.”  

Bydd y Comodor Awyr Williams yn ymuno â Chadeirydd y Cyngor i agor arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn Llyfrgell Queensferry, o 4pm ddydd Llun 3 Hydref 2022.  Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd o 9 a.m tan 6 p.m. tan ddydd Gwener 7 Hydref. Mae mynediad AM DDIM.