Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain wedi cyrraedd Sir y Fflint

Published: 04/10/2022

Bydd Cyngor Sir y Fflint ac Aura yn cynnal arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain fel rhan o ddigwyddiadau cenedlaethol i nodi 80 mlynedd a phennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd. 

Er y bydd y daith yn nodi pawb a fu’n rhan o’r Frwydr, bydd y prif ffocws ar y criw awyr o Gymru a fu’n brwydro, gan adrodd eu straeon a’u harwriaeth wrth gynulleidfa Gymreig fodern.  

Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mared Eastwood:

“Rwy’n hynod o falch fod arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain i nodi 80 mlynedd ers y digwyddiad wedi dod i Sir y Fflint, sy’n galluogi preswylwyr o bob oed i ddod i ddarganfod mwy am yr hyn a ddigwyddodd yn yr awyr yn ystod y rhyfel ac i dalu teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau ac i’r rhai a ddychwelodd adref at eu hanwyliaid yn y pen draw.”

Meddai’r Cynghorydd David Evans, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: 

“Fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog i Gyngor Sir y Fflint ac yn gyn-filwr fy hun, mae’n fraint gweld yr arddangosfa hon yn Sir y Fflint. Mae gennym hanes hir o gysylltiadau â’r Llu Awyr Brenhinol. Mae’n amser cofio, adlewyrchu a thalu teyrnged i’r rhai sydd wedi aberthu cymaint dros eu gwlad.   Roedd Brwydr Prydain, sef y frwydr awyr hiraf a gofnodwyd erioed, yn un o’r adegau mwyaf arwyddocaol ac eiconig yn hanes y wlad hon. Roedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan roedd Prydain yn sefyll ar ei phen ei hun yn erbyn yr hyn a ymddangosai ar y pryd fel pwer milwrol na ellid mo’i drechu.”

Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, yr uwch swyddog RAF yng Nghymru:

“Rwyf wrth fy modd fod Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yma yn Sir y Fflint. 

“Mae’r arddangosfa’n adrodd y stori sydd heb ei hadrodd o safbwynt Cymreig, gan gynnwys gwybodaeth am sut y gwnaeth gorsafoedd RAF yng Nghymru, ynghyd â chymunedau lleol ar draws Cymru, i gyd gyfrannu at y fuddugoliaeth ym 1940.”  

“Yn ystod haf 1940, roedd poblogaeth Prydain yn paratoi i gael ei gorchfygu gan yr Almaenwyr, ond cyn y gallai hyn ddigwydd roedd yn rhaid i’w harweinydd ragori yn yr awyr yn gyntaf.

“Fe wnaeth y Luftwaffe, a oedd yn cynnwys 2,600 o awyrennau, lansio ymosodiad ar raddfa enfawr, gyda’r bwriad o ddinistrio amddiffynfeydd awyr Prydain - 640 o awyrennau ymladd y Llu Awyr Brenhinol. 

“Fe wnaeth peilotiaid y Llu Awyr Brenhinol, a ddaeth i gael eu hadnabod fel ‘The Few’, wneud safiad yn erbyn ton ar ôl ton o awyrennau ymladd ac awyrennau bomio, gan anfon neges glir i’r gelyn na fyddai Prydain byth yn ildio.  Roedd gan y Llu Awyr Brenhinol 3,000 o beilotiaid yn gwasanaethu gyda Rheolaeth yr Awyrennau Ymladd ac roedd y cyfartaledd oedran yn 20 oed.

“Er mai yn y lleiafrif oedd Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol ym mis Gorffennaf 1940, fe aeth Prydain ati i gynhyrchu mwy yn eu ffatrïoedd ac erbyn mis Hydref y flwyddyn honno, roedd gan Reolaeth yr Awyrennau Ymladd fwy o awyrennau na’r Luftwaffe.”

Datganodd y Llu Awyr Brenhinol fuddugoliaeth yn yr awyr ym mis Hydref 1940 a phenderfynodd Hitler y byddai’n rhoi ei gynlluniau i oresgyn Prydain i’r naill ochr. Fel y dywedodd Winston Churchill, y Prif Weinidog yn ystod y rhyfel, yn ei ddyfyniad enwog: “Never in the field of human conflict was so much owed by so many to so few.”

Ychwanegodd Mike Welsh, Prif Weithredwr Hamdden Aura:

“Yma yn Aura, rydym yn falch ein bod wedi cael ein dewis fel lleoliad ar gyfer yr arddangosfa hon ac rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu helpu i gofio’r rhai a wasanaethodd ym Mrwydr Prydain ac anrhydeddu Cymuned ein Lluoedd Arfog.  Bydd yr arddangosfa hon yn rhoi’r cyfle perffaith i lawer o bobl Sir y Fflint i gofio arwriaeth a chyfraniad pobl leol.” 

Ymunodd Cadeirydd y Cyngor gyda’r Comodor Awyr Williams i agor arddangosfa hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, ddydd Llun 3 Hydref 2022.  Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd rhwng 9 yb a 6 yh tan ddydd Gwener 7 Hydref. Mae mynediad YN RHAD AC AM DDIM.

RAF Roadshow photo to use.jpg