Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet Sir y Fflint yn cadarnhau canolfannau "croes cynnes"

Published: 27/09/2022

Cost of living.jpgWedi cyfarfod y Cabinet dydd Llun 26 Medi pleidleisiodd aelodau Cabinet Sir y Fflint yn unfrydol dros gyflwyno canolfannau "croeso cynnes" er mwyn lleddfu pryderon pobl sy’n cael trafferthion â chostau, tlodi bwyd ac unigrwydd.

Yn awr bydd y 22 o ganolfannau cymunedol ar safleoedd tai gwarchod y Cyngor yn troi’n ganolfannau cynnes dros y gaeaf, yn ogystal â’r canolfannau cymunedol yn Shotton, Treffynnon a Holway.  Mae’r Cyngor yn awyddus i weithio â sefydliadau a chanolfannau eraill i sicrhau fod pob ardal wedi’i chynnwys.

Ymhob canolfan gynnes bwriedir darparu oergell, microdon a phrydau Well-Fed fel bod modd i bobl fwyta gyda’i gilydd neu fynd â’u bwyd adref.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Er ei bod hi’n anhygoel yn yr oes sydd ohoni ein bod yn gorfod meddwl am agor canolfannau "croeso cynnes", y gwir amdani yw bod dim dewis arall yn yr argyfwng costau byw sy’n digwydd ar hyn o bryd.  Mae Sir y Fflint yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif dros ben, a byddwn yn dal i gefnogi ein trigolion mwyaf diamddiffyn yn y cyfnod digynsail hwn.

“Mae’r canolfannau yn estyniad o’r gwaith a ddechreuodd yn ystod y pandemig gan arwain at sefydlu canolfannau cymorth yn Shotton a Threffynnon – mae awdurdod lleol arall wedi sôn am hyn yn ddiweddar fel enghraifft wych o sut i gefnogi a chynghori pobl leol.”

Meddai’r Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Chynhwysiad Cymdeithasol:

“Mae’n anodd credu, a ninnau yn yr unfed ganrif ar hugain, bod yn rhaid inni gymryd camau fel hyn i gadw ein pobl yn gynnes; mae’r argyfwng ynni’n effeithio ar ein cymunedau’n barod ac yn ôl pob tebyg bydd pethau’n mynd o ddrwg i waeth i bobl yn Sir y Fflint sydd eisoes yn cael trafferth dau ben llinyn ynghyd – dim ond breuddwyd ydi incwm gwario i lawer o’n trigolion!

“Dwi’n croesawu’r cynllun hwn ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos â mudiadau cymunedol i wneud yn siwr fod pob ardal yn y Sir yn elwa.”