Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Treth y Cyngor Newydd

Published: 29/09/2022

SGAM.jpgMae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi dod i wybod am dwyll Treth y Cyngor newydd.

Mae preswylwyr wedi bod yn cael galwadau ffôn yn honni eu bod gan adran Dreth Cyngor Sir y Fflint yn dweud eu bod wedi gordalu am eu Treth y Cyngor a bod eu cyfrif mewn credyd.

Yna, mae’r sawl sy’n ffonio yn gofyn am fanylion banc y preswyliwr er mwyn ad-dalu’r gordaliad. Os byddwch yn cael galwad o’r fath, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith, TWYLL YDYW. Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn cysylltu â chi yn y ffordd hon ynglyn â’ch Treth y Cyngor. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich Treth Cyngor, ffoniwch Gyngor Sir y Fflint ar 01352 704848.