Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd o Fwriad i Wneud Is-ddeddf

Published: 30/09/2022

Dymuna Cyngor Sir y Fflint wneud preswylwyr yn ymwybodol eu bod yn bwriadu gwneud is-ddeddf mewn perthynas ag acwbigo, tatwio, lliwio croen yn lled-barhaol, tyllu cosmetig ac electrolysis.

Mae’r hysbysiad hwn yn angenrheidiol i gadw at Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 ac mae’n ymwneud ag is-ddeddfau o dan adrannau 14 ac 15 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaeth Amrywiol) 1982.

Cyhoeddwyd drafft o’r is-ddeddf ar wefan y Cyngor ac mae copi i’r cyhoedd ei weld yn ystod oriau swyddfa arferol yn Nhy Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF tan 30 Tachwedd 2022.