Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


"Off Flint" – Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir

Published: 06/10/2022

Flint Castlesmall.jpg"Off Flint" – prosiect newydd cyffrous sy’n dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir, dan arweiniad Cyngor Sir y Fflint.

Bydd y prosiect yn cynnwys pobl leol wrth gofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. 

Mae wedi cael £54,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Gan adeiladu ar lwyddiant y Siop Stori yn 2018, gwahoddir unigolion a grwpiau i gymryd rhan trwy gasglu a rhannu hen luniau, arteffactau a straeon dydd i ddydd am y Fflint. 

Bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod yr wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn ac yn gyfle gwych i adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed yn 2018.  Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn dod i rannu eu lluniau a’u straeon, a fydd yn gofnod hanesyddol amhrisiadwy i dref y Fflint a’r cyffiniau.”

Bydd sesiynau galw heibio anffurfiol yn cael eu trefnu yn yr hydref, ynghyd â sesiynau hyfforddiant am ddim ar sgiliau cyfweld, cofnodi a golygu, ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r prosiect.  

Gwahoddir ysgolion lleol i ymuno hefyd, gyda chyfleoedd i’r disgyblion gasglu deunydd a chynorthwyo i ddehongli treftadaeth gyfoethog eu tref, eu castell a’u harfordir. 

Gweithredir y prosiect am 20 mis, felly bydd digon o amser i rannu a dathlu hanes balch y Fflint. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol, ar 01352 703042 neu communityheritageofficer@flintshire.gov.uk.