Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau Adfywio Canol Tref

Published: 12/10/2022

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint nodi cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar adfywio canol trefi yn Sir y Fflint pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach yn y mis.

Mae canol trefi llai ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol ers blynyddoedd yn sgil y newid i ymddygiad cwsmeriaid. 

Mae’r pandemig wedi cyflymu’r tueddiadau hyn ac mae angen i ni edrych ar ffyrdd o sicrhau bod ein trefi’n barod ar gyfer y dyfodol trwy ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chreu defnydd mwy cynaliadwy ar eu cyfer.

Er nad ydi canol trefi Sir y Fflint ag imiwnedd i’r broses yma, nid yw colli siopau cadwyn mawr a’r cynnydd o ran gofod llawr gwag wedi bod yn fater mor sylweddol ag mewn ardaloedd eraill.  Fodd bynnag, mae cau banciau’r stryd fawr wedi bod yn fwy sylweddol mewn nifer o drefi yn Sir y Fflint. Mae hyn, yn ei dro, wedi cael effaith ar raddfa a bywiogrwydd y marchnadoedd stryd yn y Sir.

Cafodd dull Sir y Fflint o ran adfywio canol trefi ei gymeradwyo ym mis Mai 2021 ac mae camau mawr wedi’u gwneud ers hynny, gan gynnwys dechrau gwaith i ddatblygu cynllun ar gyfer saith canol tref yn seiliedig ar fenter Cynlluniau Lleoedd Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mai eleni.  Bydd y fenter hon yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer canol trefi sydd â Chynllun Lle.  Mae pob tref yn unigryw ac mae nodi blaenoriaethau ar gyfer pob tref yn allweddol a byd pob cynllun yn cymryd tua chwe mis i’w gwblhau.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein trefi ac mae gennym gapasiti i ddatblygu dau neu dri ar unrhyw adeg.  Rydym yn argymell bod trefi yn cael eu hadolygu mewn tri cham, gyda’r cam cyntaf yn edrych ar feysydd sydd â blaenoriaethau sefydledig o bosibl, a lle gallai buddsoddiad yn y dyfodol fod mewn perygl os na chaiff Cynllun Lle ei ddatblygu fel blaenoriaeth.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Rhaglen Orfodi ym maes Eiddo Gwag hefyd.  Mae cyllid ar gael ar gyfer y fenter hon hefyd a gofynnir i’r Cabinet am gymeradwyaeth i symud ymlaen â hyn, ar sail nifer o feini prawf. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Healey:

“Mae’r meini prawf yn cynnwys cwestiynau ynghylch y cyfnod y mae’r eiddo wedi bod yn wag a p’un a roddwyd cyngor i’r perchennog eisoes.  Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn allweddol i adfywio canol tref a chaiff unrhyw waith a wneir ei drin yn sensitif a chyfrinachol i sicrhau bod y canlyniad gorau posibl yn cael ei gyflawni.”