Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Arfordir Sir y Fflint

Published: 12/10/2022

Flintshire Coast Path Study.JPGGofynnir i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r ffordd ymlaen ar gyfer Parc Arfordir arfaethedig Sir y Fflint pan fyddant yn cwrdd ar 18 Hydref.

Mae datblygu Parc Arfordir wedi’i grybwyll ers tro, yn enwedig ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012.

Ym mis Mawrth eleni, cyflwynwyd adolygiad Parc Arfordir Sir y Fflint ac roedd cynghorwyr yn cefnogi’r dull i gomisiynu astudiaeth gwmpasu.

Nawr bod yr astudiaeth wedi’i chwblhau, mae’n archwilio’r buddion a’r cyfleoedd y gellid eu cyflawni trwy sefydlu Parc Arfordir Sir y Fflint.  Gellid sicrhau gwelliannau yn yr amgylchedd busnes a’r economi ymwelwyr, y parth cyhoeddus a’r amgylchedd naturiol, gan ddarparu cyfraniad go iawn i fioamrywiaeth, newid hinsawdd a nodau economaidd-gymdeithasol.  Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer ôl-troed posibl a chamau ar gyfer gweithredu.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Er nad yw’r astudiaeth yn argymell unrhyw ddewis penodol, rydym yn credu, at ei gilydd, mai dewis dau yw’r mwyaf addas.  Mae hyn yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Llwybr Arfordir Cymru gyda chanolbwyntiau ar y ffin a ‘choridorau gwyrdd’ sy’n cysylltu â chymunedau cyfagos.   Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o natur a threftadaeth hynod yr ardal, denu rhagor o ymwelwyr a helpu i wrthdroi dirywiad amgylcheddol.”

Os caiff ei gymeradwyo, byddai’r gwaith yn dechrau er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.  Gyda gwaith sylweddol i’w wneud, disgwylir i’r Parc Arfordir gael ei lansio yn y gwanwyn 2024.