Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolbwynt cefnogaeth costau byw

Published: 10/10/2022

Cost of living hub Welsh.JPGMae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio “canolbwynt cefnogaeth costau byw” newydd ac rydym am rannu’r wybodaeth mor eang ag sy’n bosibl.

Rydym i gyd yn profi effeithiau’r sefyllfa economaidd bresennol sy’n wynebu’r DU ac mae Sir y Fflint am sicrhau bod ein preswylwyr yn ymwybodol o’r help sydd ar gael.  Rydym wedi dod â gwybodaeth eang at ei gilydd am help sydd ar gael yn yr amseroedd anodd hyn.  

Mae help yn dod mewn amrywiaeth o ffurfiau, ac mae’r pynciau a restrir yn amrywio o’r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chostau byw, i fudd-daliadau, cyflogaeth, plant ac ysgolion, cludiant a mwy!  Byddwn ni’n ychwanegu a diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd.

I ddechrau archwilio, ewch i siryfflint.gov.uk/costaubyw.  Mae dolen uniongyrchol i’r canolbwynt ar dudalen hafan ein gwefan.

Os ydych chi’n gwybod am aelod o’r teulu, ffrind neu berthynas nad yw ar-lein, byddai’n wych pe gallech chi rannu’r wybodaeth hon gyda nhw ac, os nad ydych chi’n gallu eu cynorthwyo nhw eich hunain, rhowch wybod iddynt y gallant ddod i unrhyw un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd ein staff cyfeillgar yn gallu eu helpu i gael rhagor o wybodaeth.

Oeddech chi yn gwybod? Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer un neu fwy o fwletinau e-bost y Cyngor. Felly, os hoffech chi weld beth sy’n newydd, ymwelwch â’n tudalen tanysgrifio a diweddarwch eich dewisiadau tanysgrifiwr.  Gallwch ddatdanysgrifio unrhyw bryd. Y pynciau cyfredol yw:

  • Newyddion Eich Cyngor
  • Gwaith Ffyrdd
  • Gwastraff ac Ailgylchu
  • Diweddariadau Twitter
  • Cefn Gwlad a'r Arfordir
  • Swyddi'r Cyngor
  • Pont Sir y Fflint Gwybodaeth
  • Newid Hinsawdd