Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Am lanast rydych wedi’i dacluso!
Published: 25/09/2017
Mae newyddion cynnar wedi ein cyrraedd sy’n dangos bod digwyddiad tacluso
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Casglodd 250 o wirfoddolwyr tua 200 sach o sbwriel yn Sir y Fflint yn unig, a
hefyd dwy dunelli o ddeunydd a gafodd ei dipio yn anghyfreithlon, yn ogystal â
thorrir prysgwydd, cribor ddôl a symud logiau.
Casglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel gan wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau
cymunedol, sefydliadau a busnesau, a oedd hefyd wedi plannu 412 o blanhigion
eithin, tair coeden ywen, clirio prysgwydd ac ail-wynebu llwybrau yn ystod
digwyddiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni.
Roedd y digwyddiad yn cael ei gydlynu gan Gyngor Sir Y Fflint gyda staff o
gynghorau cyfagos Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Wrecsam a Swydd
Amwythig, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dyma rai enghreifftiau or gwaith gwych a wnaed yn ystod y diwrnodau diwethaf:
· Ger y Fflint - 19 o wirfoddolwyr Toyota wedi casglu 35 bag o sbwriel a
deunydd wedii dipion anghyfreithlon; roedd gan Cadw Cymru’n Daclus wyth o
bobl allan yn casglu deg bag o sbwriel; fe gasglodd wyth o bobl eraill o
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub wyth bag hefyd.
· Casglodd saith myfyriwr a’u harweinydd o Goleg Llysfasi, chwe bag sbwriel o
lan Afon Gwepre.
· Bu pedwar o wirfoddolwyr o Sustrans yn brysur iawn wrth gasglu 28 bag yn
ogystal ag eitemau mwy o Bont Penarlâg i Bont Saltney Ferry.
· Cafodd 12 o bobl o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth
Dyffryn Maes Glas 30 bag yn ogystal ag eitemau mwy o gwmpas y “llong hwyl”.
· Bu Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas hefyd yn llwyddiannus yn gwaredu
tunnell o ddeunydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon o’r dyffryn.
· Casglwyd pum bag o sbwriel yn Bettisfield gan wyth o bobl o Gyfeillion
Blaendraeth Bagillt.
· Bu pymtheg Sgowt o Dreffynnon ynghyd â gwirfoddolwyr eraill yn llwyddiannus
wrth gasglu 16 bag o sbwriel ac ychydig o eitemau mwy o Ddyffryn Maes Glas a’r
Doc.
· Llenwodd unarddeg gwirfoddolwr o Kingspan dryc llawr gwastad a chwe bag
sbwriel, roeddent hefyd wedi torri llawer o brysgwydd.
· Yn Presthaven, casglodd 25 person 12 bag o sbwriel.
· Daeth deg ar hugain o ddisgyblion Ysgol Gwynedd ynghyd â phobl o Gefn Gwlad
Sir y Fflint a ENI i gasglu tri bag o Dalacre; llenwodd chwe gwirfoddolwr arall
o McDonalds dri bag arall or un traeth a chasglodd gwirfoddolwyr o Gyfoeth
Naturiol Cymru 7 bag llawn sbwriel.
· Casglodd pump o wirfoddolwyr Quay Watermen 30 bag o sbwriel.
· Gweithiodd ugain o wirfoddolwyr Tesco a staff o Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y
Fflint ar gasglu wyth bag o sbwriel, plannu 412 o blanhigion eithin a gwaredu
ar bum trelar llawn prysgwydd wedii dorri yn Nociau Maes Glas.
· Cliriodd 70 myfyriwr a’u harweinwyr o Goleg Cambria, ynghyd â staff Cefn
Gwlad Sir y Fflint ardal fawr o logiau a changhennau o Ffrwd Gwepra i helpur
llif, a buont yn cribo ardal fawr o’r ddôl a chlirio ardaloedd o brysgwydd.
· Gweithiodd 25 gwirfoddolwr o Gyfoeth Naturiol Cymru ar yr ardaloedd hyn hefyd
yn ogystal â Thraeth Talacre.
· Buont yn clirio pum erw o goed helyg a bedw oedd yn ennill tir ar gynefin yr
arfordir, gan wella’r cynefin i fywyd gwyllt ar safle SODDGA/ ACA/ Ramsar y
Parlwr Du.
· Cafodd 20 o gynefinoedd coed wedi marw eu creu , a bydd yr ardaloedd hyn yn
cynnig cynefinoedd pwysig i infertebratau bach ac adar sy’n nythu.
· Cwblhawyd arolwg safle 48 erw, a oedd yn adnabod 18 crafiad posib o
lyffantod y twyni.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cefn Gwlad:
“Mae wir yn anhygoel faint o sbwriel sydd wedi ei gasglu hyd yn hyn – heb sôn
am y ffigyrau terfynol! Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol a hoffwn
ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled i sicrhau bod hyn yn mynd yn
ei flaen. Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus
ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o hyn. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a
gymerodd ran.
Roedd hi’n stori debyg ar draws gweddill y rhanbarth:
· Wrecsam - Gosododd wyth o staff Tesco 20 metr o lwybr troed yn Nyfroedd Alun
a chreodd ddeg o’u staff lwybr bord 6 metr a chlirio adran o’r pwll dwr yn Nhy
Mawr.
· Sir Ddinbych - Tynnodd 20 o wirfoddolwyr o Tesco gannoedd o goed o ardal
Moel Famau o’r enw “Ty i’r Rugiar Ddu” - er mwyn helpu gyda chynnal a chadw’r
cynefin ar gyfer y rugiar ddu.
· aSwydd Gaer – Casglodd 27 o staff Tesco bum bag o sbwriel a pheintio meinciau
a ffensys, a bu 12 person o Quest yn torri coed a phrysgwydd yn Nyffryn Caldy;
casglodd 17 aelod o Grwp Ysbryd Cymunedol Parkgate 2 fag.
· Swydd Amwythig – Roedd Tesco’n gallu anfon 23 aelod o staff, ac ymunodd 4
aelod o Bwyllgor Rheoli Ifton Meadows ac aelodau o staff o Gyngor Swydd
Amwythig. Y dasg ar gyfer Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn Swydd Amwythig oedd
clirio prysgwydd oedd yn ennill tir ar laswelltir pwysig ar gyfer ehedyddion
sy’n bridio. Cliriwyd ardal enfawr o laswelltir gan y gwirfoddolwyr a
chofnodwyd 112 awr o wirfoddoli.
Dechreuodd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy gyda digwyddiad lansio dros frecwast ym
Mharc Gwepra a chyflwynwyd gwobrau i nifer o sefydliadau am eu gwaith
ymroddedig i warchod yr amgylchedd yn ystod y 12 mis diwethaf.