Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad Ynglyn â Setliad Llywodraeth Leol
Published: 11/10/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
chynghorau eraill yng Nghymru i fynegi ei bryder ynghylch setliad dros dro’r
llywodraeth leol, gan gydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd mewn sefyllfa
anodd.
Roedd y Cyngor wedi pwyso am setliad ariannol safonol a buddsoddiad ychwanegol
mewn gofal cymdeithasol ac addysg. Mae gostyngiad o 0.9% yn fygythiad
gwirioneddol i barhad y gwasanaethau rheng flaen hynny yr ydym ni wedi
brwydro’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i’w gwarchod.
Ers tair blynedd yn olynol mae Cyngor Sir y Fflint, fel Cyngor sy’n cael llai o
gyllid y pen dan y fformiwla ariannu, wedi datgan pam bod cynghorau yn y
sefyllfa hon yn arbennig o ddiamddiffyn i effeithiau parhaus y caledi ariannol.
Roeddem wedi rhagweld bwlch ariannol o £11.7 miliwn. O ganlyniad i’r setliad
hwn mae’r bwlch wedi codi £1.6 miliwn, heb unrhyw gefnogaeth genedlaethol ar
gyfer gwasanaethau allweddol.
Mae’r Cyngor yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i arbed arian ac eisoes yn
cynnig gwerth £3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Pan fydd y Cabinet yn cyfarfod ar 24 Hydref, bydd datganiad pellach ar gael o
ran sut y gallwn gyrraedd ein targed cyllidebol ar gyfer 2018/19.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Hoffaf ategu barn Ysgrifennydd y Cabinet o ran galw ar Ganghellor y Trysorlys
i wrthdroi rhaglen galedi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fyddai wedyn yn
darparu cyllid ychwanegol i Gymru elwa arno, yn enwedig ar gyfer gofal
cymdeithasol ac addysg. Oni bai fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud hyn,
bydd Cyngor Sir y Fflint a chynghorau eraill yng Nghymru yn wynebu her aruthrol
y flwyddyn nesaf i bennu cyllideb gytbwys. Ni ddylid rhoi cynghorau yn y
sefyllfa hon o gwbl.