Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella Llwybrau Troed Sir y Fflint
Published: 17/10/2017
Mae tîm “Hawliau Tramwy” Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn brysur iawn yn
ddiweddar ac wedi cwblhau gwaith i wella llwybr troed cyhoeddus ym mhentref
Gwaenysgor.
Mae’r tîm wedi gosod llwybr pren 50 metr ar ran o lwybr poblogaidd a oedd yn
dueddol o weld llifogydd.
Mae’r llwybr pren wedi ei osod ar lwybr sy’n arwain o Ffordd Llyn Goch yng
Ngwaenysgor i’r Bryniau. Mae’r gwelliannau yn ychwanegu at y golygfeydd godidog
o Ddiserth, arfordir gogledd Cymru ac Eryri. Mae’r llwybr hefyd o fewn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
“Mae hwn yn ychwanegiad gwych at rwydwaith llwybrau troed Sir y Fflint, a dylid
canmol y tîm. Mae gan Sir y Fflint gefn gwlad gwych ac mae gwelliannau o’r fath
yn galluogi ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd i brofi’r hyn sydd gan Sir y
Fflint i’w gynnig.”