Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Published: 24/10/2017
Trafodwyd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2016-17 mewn cyfarfod
Cabinet ddydd Mawrth 24 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn
blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, ac maen crynhoi
cyflawniadaur sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei
lywodraethun dda a pherfformion dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael
ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. Sir y Fflint ywr cyngor sydd wedi
gwella fwyaf drwy Gymru wrth gymharu mesuryddion perfformiad tebyg.
Mae rhai o’n llwyddiannau i’w gweld isod:
· Cysylltodd dros 3,300 o gwsmeriaid â’r gwasanaeth tai am gyngor a chymorth.
Cafodd 63.4% or ymholiadau hyn eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan
ganiatáu i’n timau arbenigol allu canolbwyntio ar y 36.6% o achosion cymhleth a
brys a oedd ar ôl.
· Roedd deuddeg o dai Cyngor newydd wedi’u cwblhau drwy raglen Tai ac Adfywio
Strategol SHARP ar safle hen ysgol Lôn Custom House a bydd gwaith yn parhau yn
2017/18.
· Sicrhaodd y Cyngor 285 eiddo “ecwiti a rennir” ar gyfer rhai a oedd yn prynu
ty am y tro cyntaf drwy gyfraniadau datblygwyr. Mae datblygwyr hefyd wedi rhoi
eiddo’n rhoddion i North East Wales (NEW) Homes sydd werth £3 miliwn.
· Rydym wedi cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi
preswyl a 3 cartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau “Progress
for Providers”.
· Mae tair cymuned cyfeillgar i Ddementia yn Sir y Fflint ac mae pedair cymuned
arall yn ymgeisio i gael y statws. Mae gennym bellach 38 o fusnesau sy’n
gyfeillgar i Ddementia a 10 caffi cof.
· Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod â rhan allweddol mewn datblygu Cais am
Fargen Twf Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraethau Cymru ar DU.
· Derbyniwyd 181 ymholiad busnes a daeth buddsoddiad o 158 or rheini, syn
gyfradd o 87.2%.
· Fe greodd ein partner datblygu ar gyfer y Rhaglen Tai Strategol ac Adfywio
(SHARP) 12 o brentisiaethau, a 4 o’r rheini drwy gynllun rhannu prentisiaethau
Sir y Fflint, Gwaith yn yr Arfaeth.
· Mae Sir y Fflint yn uwch nar cyfartaledd rhanbarthol a chyfartaledd Cymru o
ran y ganran o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 syn cyflawni gwell canlyniadau mewn
mathemateg – rydyn ni’n 5ed drwy Gymru. Yng Nghyfnod Allweddol 2, rydym wedi
gwella 2.2% ir lefel uchaf yng Ngogledd Cymru ac ir 6ed safle drwy Gymru.
· Mae 57% o bobl ifanc oed ysgol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint
mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg llawn amser (46% yw cyfartaledd Cymru).
· Bu i ni helpu aelwydydd yn Sir y Fflint i gael incwm ychwanegol gwerth dros
£1.5 miliwn drwy fudd-daliadau.
· Cefnogodd Cymunedau yn Gyntaf 99 o bobl i gael gwaith llawn amser neu ran
amser a helpu 247 o gleientiaid di-waith yn hirdymor i gael cymhwyster, i’w
cynorthwyo i fod yn fwy parod am waith.
· Roedd 87% or gweithwyr yn Neuadd y Sir yn gweithio’n hyblyg, sy’n golygu bod
819 o ddesgiau ar gyfer 944 o weithwyr.
· Yn unol â Strategaeth Ddigidol y Cyngor, roedd nifer y trafodion digidol
ar-lein wedi cynyddu ac roedd 11,000 o gwsmeriaid yn dymuno gohebu gyda’r
Cyngor ar-lein drwy’r wefan. Roedd cynnydd o 19% yn nifer y rhai a oedd yn
defnyddio gwefan y Cyngor hefyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
“Maer Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er
gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint
wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Maer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion
dda, gan osod targedau a chyflawnir blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn y
Cynllun Gwella.”
Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor
Sir ar 24 Hydref, bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei
gyhoeddi.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi’r cynnydd ar waith Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a chefnogi themâu’r BGC ar gyfer y
Cynllun Lles pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref.
Ffurfiwyd y BGC ym mis Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb statudol yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi canolbwyntio ar lunior Asesiad
Lles a datblygur Cynllun Lles a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018.
Ar ben hynny, mae’r BGC wedi parhau i weithio ar flaenoriaethau’r Bwrdd
Gwasanaethau Lleol (BGLl) blaenorol ac mae hefyd yn cynnal ei rôl statudol o’r
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth. Mae BGC Sir
y Fflint yn greiddiol ir gwaith o hybu arferion cydweithio cadarnhaol ac maen
canolbwyntio egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
effeithiol ac effeithlon.
Mae Asesiad Lles wedi’i lunio a’i gyhoeddi ar gyfer Sir y Fflint, yn unol â
gofynion statudol. Mae hwn yn rhoi darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint.
Mae’r Cynllun Lles yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol
(Cymru) ac fe fydd wedii lunio ai gyhoeddi erbyn mis Mai 2018.
Mae pum blaenoriaeth yn y cynllun hwn sydd wediu dewis gan mai yma maer BGC
yn credu y gall ychwanegur gwerth mwyaf. Y rhain yw:
· Lles a Bywn Annibynnol (hen flaenoriaeth y BGLl)
· Diogelwch Cymunedol (hen flaenoriaeth y BGLl)
· Cymunedau Gwydn (blaenoriaeth newydd)
· Yr Economi a Sgiliau (blaenoriaeth newydd)
· Yr Amgylchedd (blaenoriaeth newydd)
Mabwysiadwyd themâu a blaenoriaethau/is-flaenoriaethaur BGC yn ffurfiol gan
holl aelodaur BGC ac mae gwaith ar fynd i osod y rhain yn y Cynllun Lles
drafft. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yn cychwyn ar y Cynllun y
mis hwn ac fe ddaw i ben ym mis Ionawr 2018.
Mae’r themâu hyn hefyd wedi’u cyfleu yn glir yng nghynllun y Cyngor ei hun ar
gyfer eleni, gan nodi cyfraniad ymrwymiadau’r Cyngor i’r Cynllun Lles.
Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y BGC, bydd Cynllun Lles Sir y Fflint yn cael
ei gyflwyno ir holl gyrff syn aelodau or Bwrdd iw gymeradwyo gyda golwg ar
ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Reolaeth Gorfforaethol ac
Asedau:
“Drwy’r Cynllun Lles, gall Cyngor Sir y Fflint ai sefydliadau partner yn y
BGC sicrhau eu bod yn gweithio tuag at yr un amcanion er budd trigolion lleol.
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella bywydau pobl leol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers amser maith ac
mae blaenoriaethau’r BGC yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor. Mae’r cymunedau rydyn
ni’n eu gwasanaethu’n disgwyl ir partneriaid yn y sector statudol ar trydydd
sector weithio gydai gilydd, gweithio at flaenoriaethau a rennir a chyflawni
pethau, drwy ymdrechion ar y cyd.”
Polisi Diogelu Corfforaethol
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r Polisi Diogelu
Corfforaethol pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Mae diogelu’n berthnasol i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai’r
Gwasanaethau Cymdeithasol ywr gwasanaeth sy’n arwain wrth ymdrin ag ymholiadau
sy’n ymwneud â honiadau a phryderon, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles
plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo’u rôl.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r polisin disgrifio rolau a chyfrifoldebau pob gweithiwr, yn ogystal ag
aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y
gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am
unrhyw bryderon sydd gennych.
“Nid ywr polisin disodlir trefniadau presennol o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol; yn hytrach, mae’n nodi dyletswydd y Cyngor fel sefydliad cyfan,
gan egluror cyfrifoldebau ar bob lefel, waeth ym mha faes maen nhwn
gweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a
Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i’w gyfrifoldebau ac mae wedi cymryd camau
cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol i sicrhau bod
trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r
polisi o ganlyniad ir gwaith y mae’r Panel wedi’i wneud hyd yma.”
Bydd y polisi’n cael ei gefnogi gan sawl mesur sydd ar gael i weithwyr ac
aelodau etholedig, gan gynnwys:
· Cwestiynau cyffredin;
· Dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant a diogelu oedolion sydd ar gael ar-lein;
· Darparwyd pedwar sesiwn hyfforddi diogelu gan AFTA Thought, sefydliad sy’n
arbenigo mewn hyfforddi drwy ddrama, ym mis Mai a Mehefin a oedd yn trafod
gwahanol faterion diogelu. Daeth bron i 300 o weithwyr i’r sesiynau hyn o sawl
maes;
· Bydd cyflwyniadau ar ddiogelu’n cael eu rhoi ir Pwyllgorau Craffu dros y
misoedd nesaf i godi eu hymwybyddiaeth;
· Cyhoeddi newyddlen ar Ddiogelu Corfforaethol i ategu mor bwysig yw adnabod a
rhoi gwybod am bryderon ac i amlygu materion cyfredol.
Polisi Cynhyrchu Incwm
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Polisi Cynhyrchu Incwm pan fydd yn
cyfarfod ar 24 Hydref 2017.
Mae nifer o amcanion allweddol yn y polisi hwn i gynorthwyo wrth osod ffioedd a
thaliadau addas sydd wediu meincnodi, ynghyd â threfn o adolygun rheolaidd a
monitro.
Mae’r Cyngor wedi cynnal adolygiad o’i ffioedd a’i daliadau ac wedi casglu bod:
· rhai o ffioedd y Cyngor yn briodol;
· angen adolygu ffioedd eraill i sicrhau eu bod yn cwrdd â chostau, lle bo
hynnyn briodol; a
· bod nifer o gyfleoedd i adennill ffioedd a thaliadau y gellir, ar sail
gweithgarwch awdurdodau lleol eraill, eu hadennill yn gyfiawn.
Dyma rai o brif amcanion y polisi:
· Casglu cymaint â phosib o incwm drwy adennill costaun llawn lle bo modd;
· Sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu’r gallu i dalu;
· Cymharu costau gyda’n sector ein hunain a’r farchnad;
· Ystyried unrhyw gystadleuaeth i ddarparu’r gwasanaeth gan y sector cyhoeddus,
preifat neu wirfoddol;
· Sicrhau bod ffioedd a thaliadau’n cael eu pennu mewn modd sy’n ategu amcanion
polisïau ehangach y Cyngor;
· Casglu costau mor effeithlon â phosib’, cyn y pwynt darparu a chynnig cymaint
â phosib o ffyrdd i gwsmeriaid dalu.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:
“Mae ffioedd a thaliadau’n rhan bwysig o gynlluniau ariannol y Cyngor ac mae’r
adolygiad a gynhaliwyd wedi ceisio sicrhau bod trefniadau clir ar waith i
bennu, adolygu ac adennill ffioedd a thaliadau, gan ystyried gallu cwsmer i
dalu. Ar adeg pan mae mwy o alw ar wasanaethau a llai o gymorth ariannol yn
genedlaethol, mae’n hollbwysig, er mwyn i wasanaethau lleol fod yn wydn yn y
dyfodol, bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf oi allu i gasglu mathau eraill o incwm
i leihau effaith toriadaur llywodraeth.
Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle
Bydd gofyn ir Aelodau fabwysiadu Polisir Gymraeg yn y Gweithle ar gyfer Sir y
Fflint yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Hydref.
Pwrpas polisi’r Gymraeg yn y Gweithle yw:
i) hyrwyddo agweddau positif ac annog gweithwyr i ymfalchïo yn yr
iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
ii) cynyddu nifer y gweithwyr Cymraeg eu hiaith a darparu cyfleoedd
i weithwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg ac ir rheiny sy’n dysgu i
ddefnyddior Gymraeg yn y gwaith.
iii) Annog amgylchedd gwaith dwyieithog lle mae gan weithwyr ryddid
a chefnogaeth i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
“Bydd gweithredu’r polisi hwn yn cefnogi’r Cyngor i ddatblygu gwasanaethau
dwyieithog a chydymffurfio â Safonaur Gymraeg. Ymysg pethau eraill, byddwn yn
gallu dibynnu llai ar wasanaethau cyfieithu, defnyddio mwy o Gymraeg yn y
gwaith a denu a chadw mwy o weithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae hefyd yn cefnogi
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy’n anfon neges glir yn fewnol
ac yn allanol bod y Gymraeg yn werthfawr y tu allan i’r ysgol a’i bod yn ased i
gyflogaeth.
“Bydd cynnig mwy o gyfleoedd i weithwyr weld, clywed, defnyddio ac ymarfer eu
Cymraeg yn y gwaith yn eu cefnogi i fod yn fwy hyderus a medrus wrth wella
ansawdd y gwasanaethau Cymraeg ir cyhoedd. Po fwyaf mae pobl yn cael eu trochi
yn yr iaith, mwyaf y maent yn ei ddysgu.
Mae her i allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar ffurf anhawster
wrth recriwtio i swyddi sydd â Chymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwella’r sefyllfa,
mae’r Cyngor yn adolygu pethau fel:
· defnyddio geiriau ymarferol, hawdd eu deall i ddisgrifio lefel y sgiliau
Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae cyflogwyr sy’n defnyddio
enghreifftiau penodol o’r lefel o sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y swydd yn
hytrach na nodi Cymraeg hanfodol” yn unig yn dweud eu bod wedi cael gwell hwyl
ar recriwtio siaradwyr Cymraeg;
· defnyddio cyfryngau Cymraeg i hysbysebu swyddi; a
· datblygu datrysiadau eraill os nad oes modd recriwtio ymgeiswyr syn siarad
Cymraeg, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr ddysgu Cymraeg hyd at
lefel benodol o fewn cyfnod penodol neu hyfforddi siaradwr Cymraeg i fodloni
gofynion eraill y swydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mullin:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i
sicrhau y gallwn fodloni’r Safonau’n ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a
dadansoddiad demograffig ardal y Cyngor. Mae adnoddau i gefnogi rheolwyr a
gweithwyr ar gael, gan gynnwys datblygu tudalen ar y fewnrwyd i ddarparu
adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad blynyddol cyntaf y
Cyngor ar Gyfamod y Lluoedd Arfog pan maen cyfarfod ar 24 Hydref.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd
wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog au teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Maer
Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol syn cynnwys y llywodraeth, busnesau,
awdurdodau lleol, elusennau ar cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogir
lluoedd arfog yn eu hardal ac i hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda
nifer o bartneriaid sydd wedi llofnodi ein Cyfamod, gan gynnwys Cyngor
Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig. Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint
yw annog cefnogaeth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog sy’n gweithio ac/neu’n byw
yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth.
Mae grwp llywio amlasiantaeth wedi’i sefydlu ac mae’r Cynghorydd Andrew
Dunbobbin, sef Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor, yn cadeirio’r grwp.
Mae’r grwp llywio wedi cwblhau hunanasesiad mewn perthynas â’r Cyfamod ac wedi
datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r gwaith. Mae’r cyflawniadau
allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad blynyddol ac maent yn cynnwys:
· tudalen wedi’i neilltuo ar wefan y Cyngor sy’n darparu gwybodaeth a chymorth
i Gymuned y Lluoedd Arfog a dolenni i wefannau asiantaethau allweddol fel Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC);
· ymrwymiad i’r Cyfamod yng Nghynllun y Cyngor 2017/18;
· gweithredu Polisi Milwyr wrth Gefn sy’n rhoi pythefnos yn ychwanegol o wyliau
i weithwyr syn filwyr wrth gefn iw galluogi i fynd ir gwersyll hyfforddi
blynyddol a rhoi cefnogaeth ir rhai sydd wediu galw ymlaen iw cynorthwyo
wrth ddod yn ôl ir gwaith a chynnal statws gwasanaeth parhaus;
· cynnig cyfweliadau diamod i gyn-filwyr syn bodloni meini prawf hanfodol y
swydd;
· mae Cynlluniau Llety â Chymorth i gyn-filwyr ar gael yn Sir y Fflint mewn
partneriaeth â First Choice Housing.
Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:
“Mae’r Cyngor hefyd yn aelod gweithgar o Fforwm Lluoedd Arfog Rhanbarthol
Gogledd Cymru sy’n cynnwys chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a BIPBC. Mae
cynnig llwyddiannus gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru am gyllid am ddwy
flynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi arwain at benodi dau Swyddog Cyswllt
y Lluoedd Arfog dros dro ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y swyddi hyn yn cefnogi
awdurdodau lleol i weithredu’r Cyfamod a gweithio gyda gwasanaethau i ddiwallu
anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.”
Cais am Gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Bryn y Beili
Yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau o Gabinet Cyngor Sir y Fflint
gytuno ar adroddiad ar gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 2 ar
gyfer Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a chytuno ar gyfraniad y Cyngor.
Mae Bryn y Beili’n brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y
castell tomen a beili ym Mryn y Beili. Mae hyn yn cynnwys torri nifer o goed,
gwella mynediad at y safle, creu ardal chwarae newydd a gosod dehongliadau ar
hyd y safle gan gynnwys ardal arddangos yn y porthdy.
Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref yr Wyddgrug a Grwp
Cyfeillion Bryn y Beili. Llwyddwyd i sicrhau dyraniad o £43,000 o gais am
gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 1 yn 2016 i ariannur cam datblygu.
Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddod i ben cyn diwedd 2017, ac mae disgwyl i gais
Cam 2 gael ei gyflwyno os ywr partneriaid yn cytuno ar y gwaith ar ddechrau
2018.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith pellach, sy’n cynnwys gwelliannau i’r fynedfa,
adnewyddu a datblygu’r porthdy, gwella mynediad i’r beilïau mewnol ac allanol,
arwyddion a byrddau dehongli a rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau wediu
harwain gan benodiad am gyfnod penodol o dair blynedd, yn costio cyfanswm o
£1.38 miliwn, heb gynnwys yr ardal chwarae. Nid yw’r ardal chwarae’n gymwys yn
ôl y Loteri Dreftadaeth, ond mae’n rhan allweddol o’r cynllun cyffredinol.
Mae cyfraniad y Cyngor eisoes wedii neilltuo fel cyllid ar gyfer yr ardal
chwarae.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Fe gytunodd y Cabinet ym mis Mawrth y byddai cyllid cyfalaf yn cael ei
ddefnyddio i wella ardaloedd chwarae a chaeau pob tywydd. Fe gafodd ardal
chwarae Bryn y Beili ei nodi’n un “goch”, angen ei thrwsio, ac rydym yn
amcangyfrif y byddai’n costio rhwng £50,000 a £100,000. Byddai angen yr arian
hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Er nad yw’n rhan o gynllun cyffredinol
Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y dyraniad hwn yn allweddol er mwyn i Gronfa
Treftadaeth y Loteri gytuno ar eu cyfraniad terfynol at y cynllun.”
Teithio Llesol
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Teithio Llesol Sir
y Fflint cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru pan maen cyfarfod ar 24 Hydref.
Mae’r Cynllun yn rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sydd wedi’i bwriadu
i helpu mwy o bobl i ddewis cerdded neu feicio ar deithiau byr yn hytrach na
defnyddio cerbydau, fel gyrru neu fynd ar y bws, pan mae hin addas iddynt
wneud hynny.
Er mwyn helpu i lunio cynllun lleol ar gyfer Sir y Fflint, cynhaliwyd nifer o
ddigwyddiadau ymgysylltu anffurfiol cyn cynnal yr ymgynghoriad statudol rhwng 3
Gorffennaf a 24 Medi 2017. Bydd canlyniad y broses hon yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd er mwyn ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar dudalen
we Teithio Llesol y Cyngor.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd
Carolyn Thomas:
“Maer Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru’n genedl teithio
llesol. Er bod y Ddeddf yn ymwneud yn benodol â chysylltiadau â gwasanaethau a
chyfleusterau, mae Sir y Fflint yn cydnabod manteision teithio llesol o ran
hamdden ac iechyd y gymuned. Felly, bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ystod
y broses ymgynghori ynglyn â defnyddio’r Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer y
diben hwn yn cael eu hystyried pan mae cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith
strategol yn cael eu datblygu.
Gwytnwch Cymunedol
Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar Strategaeth Buddion
Cymunedol y Cyngor wrth gyfarfod nesaf ar 24 Hydref.
Un flaenoriaeth allweddol o Gynllun y Cyngor yw ‘Cyngor Cysylltiedig’ gydag
is-flaenoriaeth o Gymunedau Gwydn. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y
Fflint hefyd wedi datblygu blaenoriaeth sy’n ymwneud â ‘Chymunedau Gwydn’.
Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol ac mae wedi nodi set o
fuddion cymunedol y gellir eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond
sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio i asesu lefel y manteision cymunedol mae
sefydliad yn eu darparu.
Yn rhan o’r broses gaffael, bydd gofyn i sefydliadau nodi sut y byddant yn
cyfrannu at amcanion manteision cymunedol ac fe fyddant yn cael eu hasesun
rhan or gwerthusiad tendro. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel:
• y camau iw cymryd er mwyn er mwyn darparu buddion cymunedol;
• sut fydd y camau hyn yn sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu; ac
• y budd y bydd pob cam yn ei darparu i gymunedau.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi gweithio’n galed i dyfu’r
sector cyhoeddus drwy ddatblygu mentrau cymdeithasol, trosglwyddo asedau
cymunedol a modelau darparu eraill. Elfen allweddol o’r twf hwn yw datblygu
mentrau cymdeithasol sydd o faint sylweddol ac syn gallu cefnogi datblygiad
mentrau cymdeithasol eraill – fel Aura Leisure and Libraries, Cambrian Aquatics
a Chanolfan Hamdden Treffynnon.
Yn gryno, mae 24 o fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymdeithasol sy’n
gweithredu o fewn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf wedi elwa o gymorth y
Cyngor i helpu i’w datblygu, gan gynnwys y canlynol: Amser Babi Cymraeg,
RainbowBiz, West Flintshire Community Enterprises, Flintshire Counselling CIC
a Beyond the Boundaries CIC.
Drwyr gwaith hwn, ynghyd â rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, mae llawer o
asedau wedi’u trosglwyddo i fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymunedol, gan
gynnwys: Pwll Nofio Cei Connah (Cambrian Aquatics), Neuadd Bentref y Waun,
Llyfrgell yr Hôb, Llyfrgell Treffynnon, Llyfrgell Mancot a Chanolfan Gymunedol
Trelogan.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae llawer o waith eisoes wedii wneud i dyfur sector cymdeithasol a bydd y
polisi hwn yn helpu i gynyddu faint o fuddion cymunedol y gall y Cyngor eu
sicrhau o gaffael ei nwyddau a’i wasanaethau. Mae angen y dull arloesol hwn er
mwyn sicrhau bod mwy o fuddion cymunedol yn cael eu darparu, sy’n helpu lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau lleol.”
Adolygu’r Sector Gofal
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn adroddiad ar yr adolygiad o’r
sector gofal pan mae’n cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Maer Cyngor yn wynebu her wirioneddol i ddarparu gwasanaethau yn nghyd-destun
gofynion demograffig, amgylcheddol a chymdeithasol syn newid yn gyson ac mae
angen iddo allu ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr o fewn
cyllideb gyfyngedig iawn.
Rhagwelir y bydd poblogaeth hyn Sir y Fflint (+80) yn cynyddu 23% dros y 4
blynedd nesaf ac y bydd nifer y bobl hyn sydd ag anghenion iechyd a gofal
cymdeithasol sylweddol yn cynyddu 22% yn ystod yr un cyfnod.
Mae risg amlwg na fydd y sector gofal yn gallu ei gynnal ei hun os nad ydym yn
gweithredu. Mae gan Sir y Fflint gynllun rhagweithiol ar waith a fydd yn nodi
blaenoriaethau a chynlluniau tymor byr, canolig a hir i helpu i fynd i’r afael
â rhai or materion brys.
Mae darparwyr gofal cymdeithasol Sir y Fflint, fel darparwyr drwy’r wlad, yn
wynebu pwysau ac yn poeni am gynaliadwyedd eu busnesau.
Rhwng mis Mehefin a mis Medi, fe gomisiynodd Sir y Fflint adolygiad annibynnol
o’r sector gofal preswyl a gofal nyrsio yn y sir. Yn arwyddocaol, roedd y
canlyniadau’n dangos bod y pwysau mwyaf yn ymwneud â recriwtio a chadw staff a
phrynu defnyddiau traul, cyfleustodau, cyfarpar a gwasanaethau gwastraff.
Roedd yr adolygiad yn nodi ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector, gan gynnwys
datblygu porth” a fydd yn gweithio fel canolbwynt marcio a recriwtio lleol.
Hefyd, gan weithio gydar Tîm Datblygu Busnes, mae cyfleoedd am wasanaethau
micro-ofal yn cael eu hystyried. Mae’r rhain yn rhoi hyblygrwydd ac yn
gweithredu ar raddfa fach, gan gyflogi llai na 5 o bobl, fel arfer, ac yn
canolbwyntio ar grwp bach o gleientiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r adroddiad hwn yn egluro bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd yn
genedlaethol wrth weithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth gydan darparwyr gofal
ac ystyried pob posibilrwydd i wella dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn ein
sir. Mae llythyr wedi’i lunio iw anfon gyda’r adroddiad, sy’n amlinellu ein
hachos i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid, mynediad at adnoddau a
chydnabyddiaeth lawn o anghenion y sector gofal cymdeithasol.”