Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn arwyddo Cyfamod
Published: 24/10/2017
Yn ddiweddar fe arwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Gyfamod y
Lluoedd Arfog Sir y Fflint yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug.
Mae arwyddor Cyfamod hwn yn golygu bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymuno â
Chyngor Sir y Fflint i ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn Sir y
Fflint.
Roedd cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog, gweithwyr y Cyngor, Swyddogion Cyswllt
Rhanbarthol y Lluoedd Arfog a Chefnogwr Lluoedd Arfog y Cyngor y Cynghorydd
Andy Dunbobbin yn bresennol yn y digwyddiad.
Mae arwyddo’r Cyfamod yn cynrychioli ymrwymiad cadarn gan Wasanaeth Tân ac
Achub Gogledd Cymru i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog gan gydnabod gwerth
milwyr syn gwasanaethu – yn cynnwys yr aelodau rheolaidd a rhai wrth gefn, cyn
filwyr a theuluoedd milwrol au cyfraniad ir wlad.
Tra’n siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
wedi ymuno â 18 llofnodwr arall i gefnogi Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint.
Mae gennym Grwp Llywio gweithgar a brwdfrydig ac rydym wedi cymryd camau
sylweddol tuag at hyrwyddo’r Cyfamod a sicrhau bod gweithwyr a’r cyhoedd yn
ymwybodol o anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.
“Rydym yn edrych ymlaen i’r Gwasanaeth Tân ac Achub fod yn rhan weithgar ac i
gydweithio â ni i godi ymwybyddiaeth am y Cyfamod, anrhydeddu cyflawniadau
Cymuned y Lluoedd Arfog a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iw bywydau”.
Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân:
“Roedd hi’n anrhydedd arwyddo’r cytundeb hwn. Ein blaenoriaeth ydi darparu’r
gwasanaeth tân ac achub gorau posibl i gymunedau gogledd Cymru gan weithio i
leihau nifer yr achosion argyfwng sy’n digwydd ac ymateb i argyfyngau pan
fyddant yn digwydd. Ein gweithlu ymroddedig ac amrywiol sydd yn ein galluogi i
wneud hyn ac felly rydym yn cydnabod gwerth cefnogi ein gweithwyr o gefndir
milwrol, sydd â llawer o sgiliau trosglwyddadwy a gwerthfawr yn sgil eu
hyfforddiant milwrol.
“Mae arwyddo’r cyfamod yma’n dangos ein hymrwymiad i gynnal y prif egwyddorion
sy’n ymwneud â gweithio a gweithredu ynghyd â phartneriaid eraill yng ngogledd
Cymru i gefnogi’r lluoedd arfog a’i gymuned ehangach”.
Mae’r Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd
Arfog wynebu unrhyw anfantais oi gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu
gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig
ir rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf. Fe arwyddodd Cyngor Sir y Fflint y Cyfamod ym
mis Gorffennaf 2013.