Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Gwobrau Busnes Sir y Fflint
Published: 25/10/2017
Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sydd bellach yn ei unfed ar ddeg flwyddyn, yn cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol busnesau ar draws y sir. Cafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig yn Neuadd Sychdyn, Llaneurgain nos Wener 20 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau. Roedd hin noson wych i ddau gwmni, y naill yn ennill dwy wobr. Enillodd Man Coed VM y Wobr Busnes Gorau gyda dros 10 o Weithwyr a’r Wobr Person Busnes y Flwyddyn i Tony Jones. Derbyniodd Enbarr Enterprises Ltd ddwy wobr hefyd - y Busnes Mwyaf Cymdeithasol-Gyfrifol a’r Wobr Entrepreneur a gafodd ei chipio gan Victoria Roskams. Casglodd Henry Bohun (Salvtech Ltd) Wobr Prentisiaeth y Flwyddyn. Aeth y Wobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o Weithwyr i Evans Maintenance Services Ltd tra cafodd Taylor Dowding Innovation Ltd y Wobr Arloesedd, Technoleg a Menter. Casglodd LDF Group y Wobr Busnes Gorau i Weithio Iddo tra bod Café Isa y cyntaf i ennill gwobr newydd - y Wobr Busnes Cymdeithasol Gorau. Cyflwynwyd Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones, gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones i Jim OToole, Rheolwr Gyfarwyddwr Porthladd Mostyn, i gydnabod ei wasanaethau di-dor rhagorol i fusnes ar economi. Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Jones: Mae’n bleser gen i gyflwynor wobr hon i Mr OToole, fedra i ddim meddwl am neb mwy haeddiannol i dderbyn y wobr hon syn cydnabod ei waith diflino yn cefnogi ein heconomi leol yn Sir y Fflint. Da iawn wir!” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Hoffwn longyfarch holl enillwyr eleni. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig a chafodd y beirniaid amser go anodd yn ceisio dewis enillydd ym mhob categori. Maen wych gweld cymaint o fusnesau newydd yn cystadlu am y tro cyntaf. “Hoffwn hefyd ddiolch in noddwyr, AGS Security Systems, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto. Maen wych bod busnesau yn Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y gwobrau ac yn awyddus i gefnogi ei gilydd, a gydan gilydd, byddwn yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. “ Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud: Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2017 am y chweched flwyddyn yn olynol ac i helpu i gydnabod y dalent, yr arloesed ar uchelgais enfawr yn y sir. Yn AGS, fe welwn nir straeon llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn yn y gwobrau. Dyna pam yr ydym wrth ein bodd o fod yn rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint unwaith eto ac i helpu i ddathlu llwyddiannaur nifer o sefydliadau. Mae ein cwmni yn gwybod mwy nar mwyafrif am yr hyn y mae ennill un or gwobrau hyn yn ei olygu i ymgeiswyr. Maen dangos gallu cwmni i greu swyddi a marchnadoedd, a rhagoriaeth mewn sector penodol. I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk