Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Pwyllgor Safonau Sir y Fflint eich eisiau chi!
Published: 06/11/2017
A oes gennych ddiddordeb brwd mewn safonau ym mywyd cyhoeddus ac yn dymuno
gwasanaethu’r gymuned leol a chynnal democratiaeth leol?
Mae gan Gyngor Sir y Fflint ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru swyddi gwag
i aelodau annibynnol wasanaethu ar eu Pwyllgorau Safonau.
Mae’r Pwyllgor Safonau’n bwriadu hyrwyddo, cynnal a gwella safonau ymddygiad
aelodau o’r Awdurdod. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos
gwrthrychedd, annibyniaeth ac amhleidioldeb, gyda sgiliau gwrando da a gweithio
mewn tîm.
Dywedodd Prif Swyddog Llywodraethu Cyngor Sir y Fflint, Gareth Owens:
“Mae’r dull ar y cyd hwn yn eithaf unigryw ac rydym yn gobeithio y bydd y ddau
sefydliad yn gallu rhannu syniadau, arfer da a buddsoddi mewn hyfforddiant a
datblygur aelodau annibynnol. Wrth fod ynghlwm wrth fwy nag un sefydliad,
bydd y rôl yn fwy amrywiol a diddorol.”
Mae yna sawl rheswm dros gyfranogi, yn cynnwys:
• ehangu ar eich gwybodaeth a’ch profiad;
• gwella eich CV a datblygiad gyrfa;
• rhoi rhywbeth yn ôl drwy rannu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad;
• gweithio gyda phobl newydd ac ennill profiad o wahanol ddulliau sefydliadol;
• rhwydweithio gyda grwp ehangach o bobl; neu
• fel man cychwyn i gyfranogi gyda phwyllgorau eraill neu gyrff adolygu
annibynnol.
Gall Aelodau hawlio costau teithio a chynhaliaeth.
Os hoffech wybod mwy am ddod yn aelod annibynnol, e-bostiwch neu ffoniwch:
Alwen Davies
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
E-bost: alwen.davies@nwales-fireservice.org.uk
Ffôn: 01745 535286
Gareth Owens
Cyngor Sir y Fflint
E-bost: Gareth.legal@flintshire.gov.uk
Ffôn: 01352 702344
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am, 13 Tachwedd 2017 ac mae manylion ar
sut i wneud cais ar gael yma:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/Standards-Committ
ee-Appointments.aspx