Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Teithio Cymunedol Penyffordd - Bwcle
Published: 14/11/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor
Cymuned Penyffordd a Chyngor Tref Bwcle ac yn ddiweddar dathlwyd fod gwasanaeth
teithio cymunedol newydd cynaliadwy wedi ei gyflwyno ar gyfer yr ardal.
Dechreuodd y gwasanaeth Bws Tacsi ar 30 Hydref 2017 ac mae’n gweithredu gyda
llwybr ac amserlen sefydlog sy’n galluogi trigolion o ardaloedd Penyffordd,
Penymynydd, Little Mountain a Bwcle i gael mynediad a chysylltu â gwasanaethau
allweddol yng Nghanol Tref Bwcle.
Y cynllun hwn yw’r diweddaraf yn y fenter Teithio Cymunedol a ddatblygwyd gyda
Chynghorau Cymuned a Thref yn Higher Kinnerton, Northop Hall a Chei Connah.
Mae’r gwasanaeth Rhannu Tacsi yn wasanaeth “ffonio a theithio” ar gyfer pobl
sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol yn yr ardal. Bydd
y gwasanaeth Rhannu Tacsi yn galluogi pobl i fynd i apwyntiadau
iechyd/meddygol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
“Mae mynediad i wasanaethau allweddol yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl
ddiamddiffyn mewn cymunedau gwledig yn cael eu cau allan. Maer Cyngor wedi
dangos ei ymrwymiad i gymunedau gwledig drwy gyflwynor cynlluniau yma a rwan
tror cymunedau yw hi i ddangos eu hymrwymiad drwy ddefnyddio’r gwasanaeth lle
bynnag y bo modd i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae’n dod
yn angen brys gan fod y toriadau llymder diweddaraf wedi eu cyhoeddi a fydd yn
effeithio ar allu Cyngor Sir y Fflint i barhau â chymorthdaliadau bws.”
Mae paratoadau ar gyfer cynlluniau tebyg wedi bod ar y gweill ers tro mewn
rhannau eraill o’r Sir, ac mae cymunedau Treuddyn, Llanfynydd a Threffynnon i
gyd yn gweithio gyda’r Cyngor i ddatblygu rhagor o gynlluniau teithio
cymunedol.
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau peilot, ewch i:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Community-Transport-in-Flin
tshire.aspx neu ffoniwch 01352 701234.