Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
Published: 22/11/2017
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint
wneud sylw ar gynnydd darpariaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf.
Ar hyn o bryd maer Gwasanaeth Llyfrgell yn gweithredu model y mae’r Cyngor or
farn ei fod yn bodloni anghenion cymunedol. Caiff hyn ei gydnabod gyda 99% o
oedolion yn sgorio’r gwasanaeth fel bod yn dda neu’n ddau iawn (yr ail sgôr
uchaf yng Nghymru) a gyda plant yn sgorio’r gwasanaeth yn 10 allan o 10 (y sgôr
uchaf yng Nghymru).
Fodd bynnag os yw gostyngiadau pellach yn cael eu gwneud oherwydd anghenion
caledi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yna ni fydd y gwasanaeth yn gallu
diwallu anghenion cymunedol a bydd perfformiad yn erbyn y safonau hyn yn
dirywio’n sylweddol. Mae cadernid y gwasanaeth mewn peryg a chaiff hyn ei
arddangos, oherwydd er bod y gwasanaeth yn cyflawni perfformiad da gyda’i
gyllideb gyfredol yn erbyn hawliau craidd a dangosyddion safon gyda thargedau,
mae perfformiad ar draws meysydd eraill y fframwaith yn gymysg.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Rydw i’n falch bod y gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud camau sylweddol ymlaen
eleni, gyda gwelliannau wedi eu cynllunio yn erbyn y safonau o ran oriau agor a
mynediad at fand eang.
“Mae’n wych gweld bod y gwasanaeth yn cadw ei lefelau boddhad cwsmer uchel, ac
yn gyntaf yng Nghymru o ran boddhad plant ac yn ail yng Nghymru o ran boddhad
oedolion. Mae hyn yn ategu’r ffaith fod ein model llyfrgelloedd yn Sir y Fflint
yn iawn, ac rydym yn gwybod bod y model hwn yn gynaliadwy yn erbyn gostyngiadau
pellach sydd wedi eu cynllunio yn y gyllideb.
“Fodd bynnag byddai unrhyw effeithiau cyllidol oherwydd dull y DU o ddelio â
chaledi ariannol, o bosib yn effeithio cadernid y gwasanaeth cymunedol pwysig
hwn.