Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Campws Dysgu Treffynnon yn fuddugol unwaith eto
Published: 24/11/2017
Mae Campws Dysgu o’r radd flaenaf yn Nhreffynnon wedi ennill gwobr genedlaethol
i Gyngor Sir y Fflint a’i gontractwr, Galliford Try.
Enillodd yr ysgol newydd y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Cenedlaethol
diweddar Adeiladu Arbenigrwydd a’u cynhaliwyd yng Ngwestyr London Marriot ar
Sgwâr Grosvenor.
Roedd hyn yn dilyn ennill y Wobr Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Adeiladu
Arbenigrwydd Cymru fis Gorffennaf, yn rhannol oherwydd y ffaith y cafodd dros
50,000 tunnell o bridd ei hailddefnyddio ar gyfer tirweddu, syn cynrychioli
99.9% o ailddefnyddio pridd ar y safle. Mae’r safle yn ailgylchu dwr glaw hefyd
i dynnu dwr y toiledau ac mae 250 o baneli solar ar y to i gynhyrchu trydan.
Dywedodd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“O’r cychwyn cyntaf, roedd Galliford Try yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael
ei fewnosod ymhob agwedd o’r prosiect. Gadawodd y broses o ddymchwel yr hen
ysgol uwchradd swm sylweddol o wastraff, ond cafodd 90 y cant or gwastraff ei
hailgylchu. Nid dyna oedd diwedd y gân, cyflwynodd y prosiect 55 o gyfleoedd
cyflogaeth ac 19 prentisiaeth yn ogystal â sawl gweithgaredd addysgol a
chymunedol.”
Dywedodd Ian Jubb, Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Building North and Scotland’:
Mae’r tîm yn Nhreffynnon yn haeddu dipyn o glod am brosiect sydd wedi bod yn
batrwm i’w efelychu. Mae’r wobr ychwanegol hon yn dangos bod eu cyflawniad wir
yn arbennig ac rydym yn gobeithio bydd y gwersi rydym wedi eu dysgu yn cael eu
defnyddio mewn meysydd eraill, gyda chynaliadwyedd wrth wraidd beth rydym yn
gwneud.
Mae seremoni wobrwyo Adeiladu Arbenigrwydd yn ddathliad cenedlaethol gyda 108 o
enillwyr rhanbarthol, fel Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru fis
Gorffennaf, i gyd yn dod at ei gilydd i arddangos arfer orau a gwobrwyo
cyflawniad ar draws sector adeiladwaith y Deyrnas Unedig. Enillwyr y gwobrau
hyn yw gorau’r goreuon, mae’r broses Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd gyfan yn
cynnwys dros 500 o sefydliadau o’r holl gadwyn gyflenwi - y sector cyhoeddus a
phreifat; BBaCh micro a mawr; contractwyr, dylunwyr, cynghorwyr proffesiynol,
cleientiaid, cyflenwyr - unrhyw un syn rhan o deulu estynedig adeiladwaith.
Dywedodd Milica Kitson, Prif Weithredwr Ynni Cymunedol Cymru:
“Roedd hon yn noson arbennig i Gymru ac mae’n cadarnhau ein bod yn ganolfan
ragoriaeth ar gyfer adeiladwaith ac yn esiampl i unrhyw un syn mabwysiadu
arferion gwaith cydweithrediadol. Mae’n dystiolaeth o ymrwymiad y timau sy’n
gweithio oddi mewn, ond mae’n mynd llawer pellach na hynny. Mae Cymru yn gwneud
mwy na’r disgwyl yn rheolaidd. Maen arwydd o gadernid ac awydd y sector
adeiladu yng Nghymru i barhau i wella. Llongyfarchiadau i’n henillwyr o Gymru!”