Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Codi Mesurau Arbennig Mewn Dim o Dro
Published: 01/12/2017
Mae ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wedi i Estyn gyhoeddi ei
fod wedi codir Mesurau Arbennig yn yr amser lleiaf erioed.
Yn dilyn ymweliad monitro diweddar, adroddodd Estyn yn ôl ar y gwelliannau mawr
a chyflym a wnaed ers yr arolwg ym mis Mai 2016 a chyhoeddodd bod Ysgol
Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn wedi cael ei thynnu o’r categori Mesurau
Arbennig. Yn dilyn cynnydd rhagorol yr ysgol mae Estyn wedi penderfynu nad yw
ymweliadau monitro pellach yn angenrheidiol.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Paul Heitzman:
“Hoffwn longyfarch holl aelodau ein cymuned ysgol. Maent wedi gweithio’n
galed iawn dros y pedwar tymor diwethaf. Peth anarferol iawn yw gweld ysgol yn
cyflawni gwelliannau mor gyflym. Mae hyn yn dilyn haf llwyddiannus iawn gyda’n
canlyniadau arholiad gorau erioed. Rwyf yn falch iawn o’n llwyddiannau i gyd.
Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn gryfach nag erioed ac yn barod i
wynebu’r dyfodol â hyder.”
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Hoffwn longyfarch llwyddiant Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn.
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd ardderchog dros y 18 mis diwethaf ac rwyf yn
sicr y bydd ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad yr Esgobaeth Gatholig yn
Wrecsam, yr athrawon, y staff cymorth a’r corff llywodraethu yn sicrhau bod yr
ysgol yn mynd o nerth i nerth.”
Ychwanegodd Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid:
“Rwyf yn falch iawn o ganlyniad yr ymweliad monitro diweddar yn Ysgol
Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn a’i bod wedi llwyddo i symud o’r categori
Mesurau Arbennig mewn dim o dro. Mae hyn yn dyst i ymrwymiad y tîm arwain, y
staff, y llywodraethwyr a’r Esgobaeth Gatholig yn Wrecsam, maent i gyd wedi
gweithio mewn partneriaeth agos â’i gilydd. Yn ogystal â hyn, darparwyd
cefnogaeth ymroddedig gan dimau arbenigol o fewn yr Awdurdod Lleol a’r
Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion, GwE. Mae’r canlyniad hwn yn
enghraifft ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio’n
effeithiol. Mi fydd hi’n braf gweld yr ysgol yn parhau ar y trywydd cywir ac yn
parhau i wella.”