Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyffantod cefnfelyn yn ffynnu diolch i weithio mewn partneriaeth
Published: 11/12/2017
Yn ddiweddar bu Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio gyda Network
Rail er mwyn gwneud gwaith amgylcheddol pwysig.
Treuliodd tîm o oddeutu 15 o wirfoddolwyr o Network Rail au prif gontractwr ar
Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru, Siemens, ddiwrnod gydar Ceidwaid
Cefn Gwlad yn clirio eithin ac yn cribinio ardal y llyffant cefnfelyn yn
Bettisfield, Bagillt.
Bu’r tîm yn gweithio i glirio’r ardal lle mae’r llyffant cefnfelyn wedi ei
ail-gyflwyno er mwyn helpu i gynyddu eu cynefin porthi. Mae arnynt angen ardal
gyda gwair byr gan eu bod yn hela drwy redeg ar ôl anifeiliaid di-asgwrn-cefn
yn hytrach na hopian fel llyffantod neu frogaod eraill.
Mae gwaredu’r eithin hefyd yn lleihau cynefin y llyffant dafadennog,
cystadleuydd uniongyrchol y llyffant cefnfelyn – yr amffibiad prinaf yng
Nghymru. Roedd y llyffant cefnfelyn wedi diflannu o Gymru tan i’r
Ymddiriedolaeth Gadwraeth Ymlusgolegol gyflwyno miloedd o benbyliaid llyffant
cefnfelyn i rannau o dwyni Gronant a Talacre yn 1996.
Mae’r rhaglen ail-gyflwyno yn ei thrydedd blwyddyn. Mae’r unig boblogaethau
eraill o lyffantod cefnfelyn yng Nghymru iw canfod yn Nhalacre a Gronant syn
golygu bod yr ail-gyflwyno yn gam pwysig o ran datblygur boblogaeth yng
Nghymru.
Meddai Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn
Thomas:
“Mae gwaith partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor Sir yn
ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn i’r
Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw sydd newydd roi £2,000 i wella un or
ddau bwll dwr neu “bwll bas” ar y safle ac i Network Rail sydd wedi addo £3,700
er mwyn creu trydydd pwll bas ym mis Ionawr.
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson:
“Cawsom ddiwrnod gwych, fu’n llwyddiant mawr. Hoffwn ddiolch i’r
Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw ac i Network Rail am fuddsoddi yn y
rhywogaeth ac yn y safle. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm ddaeth allan ddydd
Mercher. Fe wnaeth pawb weithio yn galed iawn a gwneud cymaint o wahaniaeth.
Mae’r ardal yn edrych yn well nag a wnaeth erioed.”
Dywedodd Ecolegydd Signalu IP (De) Network Rail, Caitlin McCann:
“Mae’n wych pan fydd cymaint o grwpiau, gyda blaenoriaethau amrywiol, yn gallu
dod at ei gilydd i weithio tuag at un nod, yn yr achos yma, ychwanegiadau
bioamrywiaeth ar gyfer y llyffant cefnfelyn ym Magillt. Roedd y tîm o
wirfoddolwyr yn awyddus i wneud gwahaniaeth gan fod llawer ohonynt yn gweithio
yn lleol ar Gynllun Ail Signalu Arfordir Gogledd Cymru ac maent wedi datblygu
gwerthfawrogiad o’r amgylchedd a’r bioamrywiaeth ar a gerllaw’r rheilffordd.
Roedd Tim a’i wirfoddolwyr yn gwybod cymaint am y rhywogaeth a’r mentrau
bioamrywiaeth sydd ym Magillt ac mewn ardaloedd eraill ar hyd lein yr arfordir.
Gadawodd pawb gan deimlo eu bod wedi cyflawni llawer!”