Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Egluro newidiadau i gasgliadau gwastraff a gwastraff gardd
Published: 12/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno newidiadau iw wasanaethau casglu gwastraff
a gwastraff gardd oherwydd bod angen i’r Cyngor gyrraedd targedau ailgylchu
gwastraff Llywodraeth Cymru a rhaid iddo fynd i’r afael â’r heriau mawr i’r
gyllideb sy’n cael eu hwynebu gan bob Cyngor, o ystyried y cyfnod parhaus o
gyni.
1. Y Gwasanaeth Gwastraff Gardd. Er mwyn bodloni cost y gwasanaeth gwastraff
gardd – o 1 Ebrill, bydd tâl o £30 y flwyddyn am y gwasanaeth a fydd yn parhau
i weithredu o 1 Mawrth i 30 Tachwedd bob blwyddyn (Ni fydd tâl ychwanegol am y
casgliadau a wneir ym mis Mawrth eleni).
Os hoffech i ni barhau i gasglu eich bin gwastraff gardd, mae manylion
cofrestru ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu gallwch ein
ffonio ar 01352 701234 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Os byddai’n well gennych, gallwch fynd â gwastraff gardd i’ch Canolfan
Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf yn rhad ac am ddim, neu os oes gennych le,
gallech ei gompostio adref. Mae gwybodaeth am sut i gompostio ar gael yn
www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu drwy fynd i’ch canolfan Cysylltu
agosaf. Er mwyn derbyn y deunydd gwastraff gardd, bydd safleoedd Canolfannau
Ailgylchu Gwastraff Cartref yn gweithredu oriau agor yr haf o 1 Ebrill a
byddant ar agor o 10am tan 6pm saith diwrnod yr wythnos. Mae’r oriau estynedig
hyn dros yr haf yn rhedeg tan 30 Medi 2018.
2. Gorfodi Gwastraff Ochr. Mae llawer o breswylwyr yn ymrwymedig iawn i
ailgylchu eu gwastraff ond mae rhai nad ydynt yn ailgylchu ac mae hyn yn
effeithio’n ddifrifol ar ein perfformiad ailgylchu. O 1 Mawrth 2018, byddwn yn
dechrau ymweld â phreswylwyr syn gadael gwastraff ochr gydau bin du iw
hannog i ailgylchu ac i roi gwybod iddynt beth ellir ei ailgylchu a beth na
ellir ei ailgylchu. Os yw ein help a’n cyngor yn cael ei anwybyddu a bod pobl
yn parhau i adael gwastraff ochr, gallent gael dirwy o £75.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd
Carolyn Thomas:
“Mae’r materion hyn wedi’u trafod yn fanwl ac ni fu yr un yn benderfyniad
hawdd, roedd rhaid gwneud dewisiadau anodd oherwydd trefn cyni parhaus
Llywodraeth y DU. Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i gasglu
gwastraff gardd ac mae nifer o Gynghorau eraill eisoes wedi cyflwyno tâl o’r
fath. Fodd bynnag, mae angen i ni gyrraedd targedau llym y Llywodraeth o ran
ailgylchu gwastraff cartref er mwyn osgoi cael dirwy – arian a allai gael ei
wario’n well ar ddarparu gwasanaethau angenrheidiol, statudol, fel addysg ein
plant a gofal iechyd cymdeithasol i breswylwyr henoed a diamddiffyn Sir y
Fflint. Mae cyngor am beth i’w ailgylchu ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy
fynd i un o’n canolfannau Cysylltu.”