Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Safonau Masnach Cymru

Published: 24/10/2022

Bwriad Wythnos Safonau Masnach Cymru yw codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o waith mae swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud yng Nghymru. Dewiswyd pum maes gwaith i’w hyrwyddo dros yr wythnos.

Mae adrannau Safonau Masnach wedi dod at ei gilydd i weithio ar y cyd fel Safonau Masnach Cymru er mwyn sicrhau gwasanaeth cyson dros Gymru ac i dargedu’r materion sydd fwyaf pwysig i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru. Drwy rannu adnoddau gall awdurdodau gyflawni mwy gyda llai o arian a sicrhau ein bod yn targedu troseddwyr a chefnogi busnesau lleol.

Mae Dydd Llun yn hybu  'Materion Oedran' drwy amlygu prosiect i brofi os yw siopau’n gwerthu teclynnau ‘vapes’ i blant. Darganfuwyd fod 15% o siopau wedi gwerthu i blant a bod dau ddigwyddiad lle bo’r siop wedi gofyn am oedran y plentyn, ac wedi gwerthu nwyddau iddynt, er eu bod wedi datgelu eu hoedran cywir.

'Osgoi Pryder Cerbyd' yw neges dydd Mawrth. Darganfuwyd bod 18 masnachwr o fewn wythnos wedi gweithredu fel unigolion preifat er mwyn osgoi rhoi hawliau defnyddwyr i’w cwsmeriaid. 

Gofynnwn 'Beth sydd ar eich plât?' ar y dydd Mercher ar ôl i swyddogion samplo bwydydd a darganfod fod cig gwahanol  i’r label mewn 39% o cebabs a brofwyd a bod llefrith neu gig y tu fewn i 43% o’r bwyd fegan. Mae’n ymgyrch i hybu Cyfraith Natasha a’r gobaith yw y gall achub bywydau drwy sicrhau fod bwyd wedi ei labelu yn gywir, ble bynnag a’i prynir.

Mae arbed ynni ar feddwl pawb ar y funud, felly byddwn yn trafod 'Llwybr Diogel i Sero Net' ar y dydd Iau ac yn dysgu sut i osgoi sgamiau. Byddwn hefyd yn lansio pecyn cymorth i awdurdodau Cymru i gefnogi gorfodi deddfwriaeth yn ymwneud â Thystysgrifau Perfformiad Ynni. Mae treialon diweddar mewn un awdurdod lleol wedi dangos bod ymgysylltu â landlordiaid i gynyddu sgôr ynni eiddo wedi arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon blynyddol o 198.5 tunnell, gostyngiad mewn ynni o 178.3 kwh a gostyngiad mewn biliau tanwydd o dros £58,000 (prisiau Ebrill 2022).

Bydd dydd Gwener yn ein hatgoffa i 'Prynu'n Ddoeth Ar-lein' yn dilyn cynnydd o 21% mewn cwynion yn ystod y pandemig. Yn ogystal â chynnydd mewn cwynion am nwyddau ffug neu anniogel, mae marchnad fawr hefyd wedi datblygu ar gyfer gwerthu cwn, yn aml gan fridwyr anghyfreithlon.  Mae Ymgyrch Cabal wedi arwain at atafaelu dros 250 o gwn yn ystod ymchwiliadau a throseddau cysylltiedig gan gynnwys cyflenwi meddyginiaeth filfeddygol anghyfreithlon neu o dramor yn ogystal â chysylltiadau â gweithgarwch clinig ffrwythlondeb. 

Felly am fwy o fanylion am y straeon uchod ewch i wefan Safonau Masnach a dilynwch @WalesTS ar Twitter.