Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gyda’n gilydd dewch i ni “Chwalu’r Prinder Sgiliau”

Published: 21/10/2022

DBF.pngMae Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy wedi ymuno â Chyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria i annog busnesau i gyflogi gweithlu mwy amrywiol, gan gynnwys pobl ag anableddau a phobl ag anghenion iechyd meddwl.

Ymunwch â nhw mewn digwyddiad yng Ngholeg Cambria ar 28 Hydref i ddarganfod sut y gall eich busnes elwa.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r bwlch rhwng y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a’r sgiliau sydd gan y gweithlu sydd ar gael i’w cynnig wedi tyfu.  Nid oes rhaid i’r sefyllfa fod fel hyn - dewch draw i ddarganfod sut i ail ystyried y llwybrau tuag at gyflogaeth.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones, a fydd yn siarad yn y digwyddiad gydag Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Mae Sir y Fflint yn gwbl ymroddedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i bobl ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, ac mae cyflogaeth a gefnogir yn flaenoriaeth allweddol ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol i gyflawni hyn.  

“Mae pawb yn haeddu cael yr un cyfleoedd - ennill cyflog, byw yn annibynnol a datblygu cyfeillgarwch.  Fe fyddwn yn annog unrhyw berchennog busnes lleol i ddod draw i ddarganfod pa gyfleoedd cyffrous sydd yna yn eich ardal.”

Dywedodd Askar Sheibani, Cadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy a Phrif Weithredwr Comtek Network Systems: 

“Mae Sir y Fflint yn ffodus gan ei fod yn gartref i rai o’r busnesau mwyaf gwydn yn y DU. Mae ein cymuned fusnes, er ei bod wedi profi un o’r pandemigau gwaethaf, wedi llwyddo i frwydro drwy’r holl heriau a dangos ei harloesedd a’i chreadigrwydd er mwyn goresgyn rhwystrau. 

“Nawr rydym yn wynebu prinder difrifol o weithwyr medrus sy’n creu rhwystr niweidiol ar gyfer cynhyrchiant a thwf busnes.  Gyda chefnogaeth egnïol Cyngor Sir y Fflint, sy’n gyngor cyfeillgar i fusnes, Llywodraeth Cymru a’r holl ddarparwyr hyfforddiant a budd-ddeiliaid gwych rydym nawr wedi ymgymryd â strategaeth i fynd i’r afael â’r broblem hon sy’n niweidiol yn economaidd. 

“Mae Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy nawr wedi trefnu cynhadledd o bwys i lansio ffurfio prosiect peilot wedi ei leoli yn Sir y Fflint sy’n anelu at ddarganfod datrysiad effeithiol a chynaliadwy i gael gwared yn barhaol ar y diffyg o ran pobl fedrus yn lleol. 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys y siaradwyr a’r pynciau canlynol:

• Yr Arglwydd Barry Jones

• Jack Sargeant AS

• Coleg Cambria - Prentisiaeth a Hyfforddiant

• Llywodraeth Cymru - Cefnogwr Cyflogaeth Pobl Anabl.

• Neges gan Weinidog Economi Cymru - Vaughan Gething AS. 

• Hft Sir y Fflint (gwasanaethau cymorth dysgu ac anabledd) - dangos rhai straeon o lwyddiant.

• Cyngor Sir y Fflint - Hyfforddi ac uwchsgilio pobl ag anabledd a phrosiect peilot Sir y Fflint.

• Prifysgol Glyndwr - Prentisiaeth Gradd

Hefyd fe fydd cyfle i siarad a rhwydweithio gyda budd-ddeiliaid a darparwyr hyfforddiant y gymuned leol.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim heddiw!