Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sgam Tai

Published: 20/10/2022

SGAM.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod bod rhai o’u tenantiaid wedi bod yn cael galwadau ffôn sy’n dangos y rhif Adnabod Galwr 0330 3301983. Mae’r galwr yn dweud eu bod yn gontractwr ar gyfer tîm Atgyweirio Tai Cyngor Sir y Fflint.  

Ar ôl holi ein Hadran Tai, cawsom gadarnhad nad yw unrhyw un o gontractwyr Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r rhif ffôn hwn.  Cynghorir tenantiaid i beidio â rhoi unrhyw wybodaeth i’r galwr hwn ac i roi’r ffôn i lawr ar unwaith.  Os oes gennych chi fel tenant unrhyw bryderon am eich ty, defnyddiwch rifau cyswllt arferol y Cyngor.