Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Atal benthycwyr arian didrwydded!

Published: 21/10/2022

It_s Only A Few Quid WELSH.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian anghyfreithlon, sy’n fwy adnabyddus fel benthycwyr arian didrwydded, ac addysgu’r rhai sydd mewn perygl o’r goblygiadau wrth ymwneud â’r unigolion hyn.

Mae benthyca arian yn anghyfreithlon ar gynnydd a gwyddom ei fod yn arwain at ganlyniadau difrifol ac eto, mae pobl ledled Cymru’n dal i weld hyn fel eu hunig ddewis. Mae pethau’n anodd ar hyn o bryd ac mae effaith y pandemig, ynghyd â chostau byw yn golygu bod pobl yn ei chael yn anodd cal dau ben llinyn ynghyd - a rhai yn methu talu costau bob dydd fel talu am ddillad, talu biliau a bwydo eu teuluoedd.  Bydd temtasiwn syrthio i drap benthyciwr arian anghyfreithon yn teimlo fel yr unig ddewis.

Rydym ni eisiau sicrhau bod pobl yn ymwybodol o beryglon benthycwyr arian anghyfreithlon, pwy ydyn nhw, ble maen nhw a’r hyn y maen nhw’n gallu ei wneud. Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o Stopio Siarcod Benthyg Arian Cymru fel man y gall dioddefwyr gael y cymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt.   

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae Sir y Fflint wedi ymrwymo i helpu preswylwyr ymdopi â thrafferthion ariannol yn yr hinsawdd sydd ohoni a dyna pam ein bod ni wedi lansio “canolbwynt cymorth costau byw” ar ein gwefan. 

“Yn yr un modd, mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o sut i osgoi’r unigolion diegwyddor hyn sy’n manteisio ar bobl ddiamddiffyn a phobl mewn anobaith.  Efallai eu bod nhw’n ymddangos yn gyfeillgar a chymwynasgar i ddechrau, ond maen nhw’n gallu arwain pobl ar drywydd dyled eithriadol.     Dyna pam yr ydym ni’n cefnogi ymgyrch Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i godi ymwybyddiaeth o sut i osgoi benthycwyr arian didrwydded a sut i gael cymorth a chefnogaeth.”

Gallai cost benthyca gan y bobl anghywir fod yn uwch nag yr ydych chi’n ei feddwl.  Benthycodd dioddefwr mewn cymuned yng Nghymru £100 gan fenthyciwr arian anghyfreithlon, ond dros 10 mlynedd cafodd ei orfodi i dalu £96,000 yn ôl!  I gael cyngor diogel, cyfrinachol a chefnogaeth, ffoniwch 0300 123 3311 neu ewch i stoploansharkswales.co.uk .