Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlordiaid Tai Amlfeddiannaeth yn cael dirwy o bron i £30,000 am dorri Deddfau Tai

Published: 24/10/2022

Mae landlord ac asiant sydd wedi bod yn gweithredu HMO (Ty Amlfeddiannaeth) trwyddedadwy ym Mhenarlâg, Glannau Dyfrdwy heb Drwydded HMO ac yn torri cyfreithiau tai eraill wedi cael dirwy o £28,000 mewn erlyniad a ddygwyd gan Gyngor Sir y Fflint. 

Cynhaliodd tîm tai’r sector preifat archwiliad o’r eiddo ym mis Ionawr 2022 a gadarnhaodd fod y ty yn cael ei weithredu fel HMO trwyddedadwy gyda 5 preswylydd. 

Mewn gwrandawiad llys yn ddiweddar, cafwyd Jayne McGuinness a Richard Collins o RVC Estates Limited yn euog o 16 o droseddau tai. Ni fynychwyd y gwrandawiad llys a chawsant ddirwy o £28,000 gyda £1,640 ychwanegol mewn costau.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir y bydd y Cyngor yn amddiffyn ei drigolion rhag landlordiaid twyllodrus sy’n gweithredu Tai Amlfeddiannaeth heb drwydded ac nad ydynt yn cydymffurfio â chyfreithiau Rhentu Doeth Cymru a luniwyd i amddiffyn tenantiaid. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol.”