Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sioe Deithiol Swyddi y Nadolig 2022

Published: 21/10/2022

Ydych chi’n edrych am waith ychwanegol y Nadolig hwn neu’n gobeithio cael troed yn y drws mewn Manwerthu?

Bydd Cymunedau am Waith  a Chanolfan Byd Gwaith wrth law gyda phopeth y byddwch angen ei wybod am swyddi gwag sydd ar gael nawr, dros gyfnod y Nadolig a thu hwnt.

Dewch i gyfarfod y tîm yn un o’r lleoliadau a restrwyd isod 10am -  4pm:

Wythnos yn cychwyn 24 Hydref:

Dydd Mawrth 25 Hydref - Llyfrgell y Fflint

Dydd Mercher 26 Hydref - Marchnad yr Wyddgrug

Dydd Iau 27 Hydref - Caffi Cymunedol Refurbs, 9 Brunswick Road, Bwcle

Wythnos yn cychwyn 31 Hydref:

Dydd Mawrth 1 Tachwedd - Brychdyn (cyntedd Costa Coffee)

Dydd Iau  3 Tachwedd - Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chymunedau am Waith Nia Parry nia.parry@flintshire.gov.uk ar 07770633453 neu Janiene Davies Janiene.davies@flintshire.gov.uk ar 07770632128.

Festive Jobs Roadshow- Cymraeg.jpg