Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd a B5125 The Highway, Penarlâg a A5026 Stryd Chwitffordd, Treffynnon

Published: 24/10/2022

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i roi wyneb newydd a:

  • B5125 The Highway, Penarlâg o Birch Rise i Gladstone Way A
  • A5026 Stryd Chwitffordd, Treffynnon o Fron Park Road i Ael y Ffynnon

y ddau yn dechrau dydd Llun 31 Hydref am tua wythnos. (Yn dibynnu ar y tywydd).

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 08:30 a 17:00 er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd.  

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.

Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.