Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith hanfodol i dorri cannoedd o goed ar yr A541, Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych, sydd wedi’u heintio â Chlefyd Coed Ynn

Published: 27/10/2022

Ash dieback 1.jpgAr 31 Hydref bydd Sir y Fflint yn dechrau gwaith i dorri coed ynn ar yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych sydd wedi’u heintio â chlefyd coed ynn. Byddwn yn cau’r ffordd fesul cam gan ddechrau yn Hendre a symud yn ein blaenau i Star Cross a Nannerch, ac yna i Afonwen. Rhagwelir bydd y gwaith yn cymryd tair wythnos. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac amhariadau a achosir gan gau’r ffordd. 

Ar 31 Hydref byddwn yn dechrau gwaith i dorri cannoedd o goed ynn sydd ym meddiant y Cyngor, sy’n tyfu wrth ymyl yr A541 Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych. Mae’r coed sy’n cael eu torri wedi’u heintio â chlefyd coed ynn ac mae angen eu torri er diogelwch defnyddwyr y briffordd. 

Meddai’r Cyng. David Heale, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Mae’n bechod mawr ein bod ni’n colli’r holl goed ynn yma. Fodd bynnag, os na wnawn ni rywbeth, mae perygl mawr y bydd y coed heintus yma’n syrthio ar y briffordd. Bydd y gwaith yma’n diogelu defnyddwyr y ffordd rhag perygl o’r fath, ac mae’n ddechrau da i raglen waith clefyd coed ynn y gaeaf. Hoffaf sicrhau’r cyhoedd bod ein timau yn gweithio’n galed i ganfod cyllid i blannu coed newydd.”

Mae clefyd coed ynn yn haint ffwngaidd a drosglwyddir drwy’r awyr sy’n effeithio ar goed ynn, a chafwyd yr achos cyntaf ohono yn Sir y Fflint yn 2015. Mae’n bur debyg bod pob coeden onnen yn y sir wedi dod i gysylltiad â’r haint ac yn mynd i gael ei heffeithio i ryw raddau. Cydnabyddir gan y diwydiant y bydd y clefyd yn lladd oddeutu 80% o’r coed ynn ac y bydd yr 20% sy’n weddill yn debygol o gael eu lladd gan haint eilradd wrth iddyn nhw golli egni a dod yn fwy agored i heintiau coed eraill. 

Er bod rhai coed yn edrych yn iach, efallai eu bod nhw wedi’u heintio. Mae’r ffwng yn tyfu y tu mewn i’r goeden ac yn y diwedd yn rhwystro ei systemau cludo dwr ac yn achosi i flagur a changhennau'r goeden wywo, gan ladd y goeden yn y pendraw. Mae’r haint yn effeithio ar holl ffurfiant y goeden a dyna pam bod angen torri’r coed heintus, rhag ofn iddyn nhw syrthio ar y briffordd. 

Y gwaith torri coed arfaethedig ar Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych yw gwaith cyntaf y tymor. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar hyd a lled y sir i dorri coed ynn heintus sydd ym meddiant y Cyngor ac wrth ymyl ein priffyrdd. Yn ogystal, mae yna goed ynn preifat wrth ymyl ein priffyrdd ac felly mae’n bwysig bod perchnogion coed yn archwilio eu coed yn rheolaidd er mwyn diogelu defnyddwyr y briffordd. I helpu, mae Cyngor Sir y Fflint yn ysgrifennu at berchnogion coed ger llwybrau blaenoriaeth, lle ceir achosion o’r clefyd coed ynn, i amlygu’r angen i archwilio’r coed ac i ymgymryd ag unrhyw waith a argymhellir. Mae’n bwysig bod y Cyngor a thirfeddianwyr yn torri coed heintus er mwyn lleihau’r perygl i’r cyhoedd. 

Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen ar goed, lle cewch chi hefyd ddarllen Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn Sir y Fflint. Os ydych chi’n berchen ar goeden onnen, mae gan y Cyngor Coed lyfryn o’r enw “Guidance for homeowners and those with ash trees on their land” a all fod yn ddefnyddiol (gwelwch eu gwefan). 

Tudalen Sir y Fflint ar goed 

Cyngor Coed