Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyddiad cau derbyniadau ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7

Published: 28/10/2022

School Uniform AdobeStock_312923164.jpgHoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa rhieni bod bellach modd iddynt wneud cais ar-lein am le i’w plentyn yn ysgolion uwchradd Sir y Fflint ar gyfer mis Medi 2023.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i blant a fydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2023 yw dydd Gwener, 4 Tachwedd 2022.  

Cynghorir rhieni i ddarllen Polisi Derbyniadau Ysgol a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor yn ofalus cyn cyflwyno ceisiadau am le mewn ysgol, yn arbennig wrth ystyried trefniadau cludiant i/o ysgol.  Mae’r ddau bolisi’n cael eu gweithredu’n llym heb unrhyw eithriad.  

Mae angen i rieni ystyried sut i gael eu plentyn/plant i ac o’r ysgol wrth wneud dewisiadau.   Mae’n rhaid i ddisgyblion fynychu eu hysgol uwchradd addas agosaf a byw mewn cyfeiriad sy’n fwy na 3 milltir o’r ysgol honno er mwyn derbyn cludiant ysgol am ddim.   Cyfrifoldeb y rhieni yw gwirio bod eu plentyn yn mynychu eu hysgol addas agosaf. 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae gan rieni'r hawl i fynegi dewis ar gyfer derbyn eu plentyn i unrhyw ysgol.  Fodd bynnag, oni bai eu bod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y polisi cludiant, ni fydd cludiant am ddim i’r ysgol yn cael ei ddarparu.  Er ein bod bob amser yn gwneud ein gorau i ddyrannu llefydd i blant yn eu hysgol ddewisol, os bydd nifer y ceisiadau a dderbynnir yn uwch na nifer y llefydd sydd ar gael, bydd yn rhaid defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio.  Gall nifer y llefydd sydd ar gael mewn ysgol newid o flwyddyn i flwyddyn am wahanol resymau.” 

Meddai’r Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Katie Wilby:

“Mae meini prawf llym ar waith ar gyfer cludiant i’r ysgol ac ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd bob plentyn yn gymwys.   Cynghorir rhieni i beidio â seilio eu dewis ar argaeledd llwybr cludiant cyhoeddus, gan na ellir sicrhau'r gwasanaeth na lleoedd ac mae'n bosib nad yw o fewn rheolaeth yr Awdurdod Lleol.

“Yn ogystal â hynny, ni ddylai rhieni gymryd yn ganiataol y bydd y gwasanaethau cludiant cyhoeddus sy’n weithredol ar hyn o bryd yn parhau i fod ar gael yn y dyfodol.   Mae problemau’n codi gyda chludiant cyhoeddus o bryd i’w gilydd ac mae gan weithredwyr masnachol hawl i newid neu ddirymu eu gwasanaethau yn aml ar fyr rybudd neu heb rybudd o gwbl.”  

Os oes gan rieni unrhyw bryderon neu os nad ydynt yn siwr pa ysgol yw eu hysgol addas agosaf ar gyfer cludiant, dylent gysylltu â’r Uned Cludiant Integredig drwy’r Ganolfan Gyswllt gan ffonio 01352 701234 neu anfon e-bost at school.transport@flintshire.gov.uk.  Cynghorir rhieni i geisio eglurhad cyn gwneud penderfyniad terfynol.   Bydd ceisiadau cludiant i’r ysgol ar gyfer mis Medi 2023 yn agor ym mis Mawrth 2023 unwaith y bydd y derbyniadau wedi’u cadarnhau. 

Am ragor o wybodaeth am dderbyniadau ysgol, ymwelwch â’n gwefan.